A. A. Milne
![]() Awdur Seisnig oedd Alan Alexander Milne (18 Ionawr 1882 – 31 Ionawr 1956). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei lyfrau am arth o'r enw Winnie-the-Pooh a cherddi plant. Roedd yn llenor nodedig, yn bennaf fel dramodydd cyn i lwyddiant Pooh wthio ei lwyddiant cynt i'r cysgodion. BywgraffiadGanwyd Milne yn Hampstead, Llundain a thyfodd i fyny yn Henley House School, 6/7 Mortimer Road, Kilburn, Llundain, ysgol annibynnol fechan a gynhaliwyd gan ei dad, John V. Milne. Un o'i athrawon oedd H. G. Wells. Mynychodd Ysgol Westminster a Coleg y Drindod, Caergrawnt lle astudiodd mathemateg gyda ysgoloriaeth. Tra yno, ysgrifennodd a golygodd y cylchgrawn myfyrwyr Grants, cyd-weithiodd gyda'i frawd, Kenneth, ac ymddangosodd eu erthyglau o dan y llythrennau AKM. Daeth gwaith Milne i sylw'r cylchgrawn hiwmor Prydeinig, Punch a daeth yn gyfrannwr i'r cylchgrawn ac yn ddiweddarach yn olygydd cynorthwyol. Ymunodd Milne â'r Fyddin Brydeinig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gwasanaethodd fel swyddog yn y Royal Warwickshire Regiment, ac yn ddiweddarach ar ôl dioddedd o salwch a'i wanychodd, gyda'r Royal Corps of Signals. Ar ôl y rhyfel, ysgrifennodd Peace with Honour (1934) a wrthododd y syniad o ryfel; cymerodd hyn yn ôl i ryw raddau gyda War with Honour yn yr 1940au. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd Milne yn un o feirniaid mwyaf blaengar o'r llenor P.G. Wodehouse, a gafodd ei ddal yn ei gartref gwledig yn Ffrainc gan y Natsiaid ai garcharu am flwyddyn. Darlledodd Wodehouse ar y radio o Ferlin ynglŷn â'i garchariad. Er eu bod yn ddarllediadau ysgafn a wnaeth hwyl o'r Almaenwyr, cyhuddodd Milne ef o draddodi brad gan gyd-weithio gyda gelyn ei wlad. (Ond fe gafodd Wodehouse ddial i rhyw raddau gan greu parodiau yn gwneud hwyl o gerddi Christopher Robin Milne yn ei storiau diweddarach.) Yn ystod yr ail-ryfel byd, roedd yn gapten ar y Home Guard yn Hartfield a Forest Row, a mynodd fod aelodau o'r platŵn yn cyfeirio ato'n syml fel 'Mr Milne'. Priododd Milne Dorothy "Daphne" de Selincourt yn 1913, a ganwyd eu unig fab, Christopher Robin Milne, yn 1920. Yn 1925, prynodd A. A. Milne ei gartref gwledig, Cotchford Farm, yn Hartfield, Dwyrain Sussex. Ymddeolodd i'r fferm ar ôl i strôc a llawdriniaeth ar ei ymenydd yn 1952 ei adael yn fethedig. Roedd Cotchford Farm hefyd yn gartref i prif gitarydd y Rolling Stones, Brian Jones a'i ganfwyd wedi ei foddi yno yn 1969. Mae Cotchford Farm eisoes wedi cael ei ddymchwel oherwydd y gôst trwsio a chynnal aruthrol, ac adeiladwyd tŷ newydd ar y safle. LlyfryddiaethNofelau
Ffeithiol
Erthyglau Punch:
Dewisiad o erthyglau a chyflwyniadau i lyfrau eraill:
Casgliadau Straeon ar gyfer plant
BarddoniaethAr gyfer y Luncheon Interval (cerddi o Punch)
DramâuYsgrifenood Milne dros 25 o ddramâu gan gynnwys:
Llyfrau am Pooh a Milne
Ffilmiau
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Information related to A. A. Milne |
Portal di Ensiklopedia Dunia