Byr-a-thoddaid
Mesur caeth yw'r byr-a-thoddaid na ddylid ei gymysgu â'r hir-a-thoddaid. Mae'n un o'r Pedwar Mesur ar Hugain. Mae'r mesur hwn yn gyfuniad o'r toddaid byr a'r gyhyhedd fer. Mae'r toddeidiau byr yn gymysg â'r gyhydedd fer, ond ni cheir dau doddaid yn dilyn ei gilydd. Cynhelir yr un brifodl drwy gydol y pennill. Dyma enghraifft led-gynganeddol o awdl i Dduw gan Gruffudd ab yr Ynad Coch (13g), a gynigir yn Cerdd Dafod, John Morris-Jones (diweddarwyd yr orgraff):
Dyma enghraifft arall o fyr-a-thoddaid o waith Saunders Lewis allan o'r gyfrol Siwan a Cherddi Eraill:
Hefyd, dyma fyr-a-thoddaid gan y pencerdd Wiliam Llŷn allan o'i awdl enghreifftiol 'I Ferch':
Nid oes rheol yn nodi faint o linellau o gyhydedd fer y dylid eu cynnwys rhwng y toddeidiau, dim ond rheol yn nodi na ddylid gosod dau doddaid gyda'i gilydd. Gweler hefydLlyfryddiaeth
Cyfeiriadau
Information related to Byr-a-thoddaid |
Portal di Ensiklopedia Dunia