Ais a phlaster
![]() Proses adeiladu ar gyfer rhoi gorffeniad ar waliau mewnol a nenfydau yw ais a phlastr (hefyd dellt a phlaster). Gwnaed defnydd helaeth o ais a phlaster yng Nghymru cyn cyflwyno plastrfwrdd yn y 1930au. Byddai ais pren caled hollt o wahanol hydoedd a meintiau yn cael eu defnyddio yn aml. Roedd hollti'r pren gyda'r graen, yn hytrach na'i lifio, yn well o ran cryfder a gwydnwch. Byddai mat o gyrs hefyd yn cael ei ddefnyddio fel ais. Mae'r dull hwn yn deillio o dechneg gynharach bangorwaith a dwb.[1] Roedd ais a phlaster yn ddefnyddiol, ac yn fwy addas na phlastrfwrdd ar gyfer siapiau anarferol neu addurniadol. Mae'n well hefyd na phlastr calch am ynysu swn ac roedd nenfydau ais a phlaster yn cyfrannu'n fawr at atal tan rhag ymledu mewn adeiladau hanesyddol. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia