Rhestr o SoDdGA yn Sir Gaerfyrddin a DinefwrSafle natur sy'n dod dan lefel isaf cadwraeth yng ngwledydd Prydain yw Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (neu SoDdGA; SSSI yn Saesneg) a chânt eu dosbarthu i Ardaloedd Ymchwil. Mae pob SoDdGA yn dynodi safle sydd â bywyd gwyllt bregys (planhigion, anifeiliaid prin), daeareg neu forffoleg arbennig neu gyfuniad o'r ddau hyn: natur gwyllt a nodweddion daearegol. Yn 2006 roedd 1,019 SoDdGA yng Nghymru: cyfanswm o 257,251 hectar (12.1% o holl arwynebedd Cymru).[1] Datblygwyd y dull hwn o glystyru SoDdGAau rhwng 1975 a 1970, yn wreiddiol gan y Nature Conservancy Council (NCC), gan gadw at ffiniau Deddf Llywodraeth Leol 1972.[2] Cadwyd at ffiniau siroedd Lloegr ond yng Nghymru cymhlethwyd y sefyllfa drwy ychwanegu cynghorau dosbarth at rai siroedd a rhannu eraill. Unwyd Canol a De Morgannwg, holltwyd Gwynedd a Phowys ac unwyd Llanelli gyda Gorllewin Morgannwg. Ers 1972 cafwyd llawer o ailenwi, uno a rhannu siroedd, cynghorau dosbarth a chymuned. Er mwyn symlhau'r ardaloedd hyn, ailddiffiniwyd hwy gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 yn Ebrill 1996. Mae'r ardal Caerfyrddin a Dinefwr gan mwyaf o fewn i Sir Gaerfyrddin. Rhestr o rai o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghaerfyrddin a Dinefwr
Cyfeiriadau
Information related to Rhestr o SoDdGA yn Sir Gaerfyrddin a Dinefwr |
Portal di Ensiklopedia Dunia