Darganfyddiadau a dyfeisiau CymreigMae'r rhestr hon o arloesiadau a darganfyddiadau Cymreig yn cyfeirio at arloesiadau a darganfyddiadau a wnaed yng Nghymru neu gan bobl o Gymru. Arloesedd yng Nghymru neu gan Gymry1557 - hafaliad = a'r symbol plws +Meddyg a mathemategydd Cymreig oedd Robert Recorde (c. 1512 – 1558). Dyfeisiodd yr hafalliad (sef =) a hefyd cyflwynodd y symbol plws (sef <b>+</b>) i siaradwyr Saesneg yn 1557. 1706 - y symbol pi (sef π)Roedd William Jones, FRS (1675 – 1 Gorffennaf 1749[1]) yn fathemategydd Cymreig, sy'n fwyaf nodedig am ddefnyddio'r symbol π (y llythyren Roegaidd Pi) i gynrychioli cymhareb cylchedd cylch i'w ddiamedr am y tro cyntaf. 1794 - pêl-ferynau (ball barings)Dyfeisiwr a meistr haearn Cymreig oedd Philip Vaughan a batentiodd y cynllun cyntaf ar gyfer pêl-ferynau ym 1794.[2][3] Roedd Cymro arall yn flaengar iawn yn y maes hwn, sef Joseph Henry Hughes o Firmingham a gofrestrodd batent am bêl-feryn amgen yn 1877. 1810 - Sosialaeth Iwtopaidd, cwmniau cydweithredol a diwrnod 8 awrGwneuthurwr tecstilau Cymreig, dyngarwr a diwygiwr cymdeithasol oedd Robert Owen (14 Mai 1771 – 17 Tachwedd 1858), ac un o sylfaenwyr sosialaeth iwtopaidd a'r mudiad cydweithredol. Ymdrechodd i wella amodau gwaith mewn ffatrioedd, hyrwyddodd gymunedau sosialaidd arbrofol, a cheisiodd ddull mwy cyfunol o fagu plant, gan gynnwys rheolaeth y llywodraeth ar addysg.[4] Yn gynnar yn y 19g, cododd Robert Owen y galw am ddiwrnod deg awr ym 1810, a'i sefydlu yn ei fenter arloesol, "sosialaidd" yn New Lanark. Erbyn 1817 roedd wedi llunio nod y diwrnod wyth awr a bathodd y slogan: "Wyth awr o lafur, Wyth awr o hamdden, Wyth awr o orffwys".[5] 1826 - gambit mewn gwyddbwyllGambit Evans (sef y Capten William Davies Evans, o Hwlffordd) a ddyfeisiodd y symudiad gambit mewn gwyddbwyll a elwir ers hynny'n 'Gambit Evans'. Dros y blynyddoedd, defnyddiwyd y symudiad hwn gan chwaraewyr fel Paul Morphy, Jan Timman, ac yn y 1990au gan Garry Kasparov, yn fwyaf arbennig mewn buddugoliaeth 25 symudiad yn erbyn Viswanathan Anand ym Mhencampwriaeth Goffa Tal yn Riga, 1995. 1835 - y propelar sgriw i longauPeiriannydd a dyfeisiwr Cymreig oedd Robert Griffiths (13 Rhagfyr 1805 - Mehefin 1883) o fferm Lleweni, Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych. Yn 1845 aeth i Ffrainc lle sefydlodd weithfeydd peiriannau a gweithfeydd haearn yn Havre. Derbyniodd batentau ar gyfer y propelar sgriw (i yrru llongau) yn 1835, peiriant caboli a llyfnu gwydr yn 1836 a nifer o batentau eraill a oedd yn ymwneud â nyts a bolltau.[6] 1836 - mwyndoddi haearnCaiff David Thomas ei gyfri'n un o brif feistri haearn y byd. Tra'n gweithio yng Ngwaith Ynyscedwyn, Ystradgynlais, Cwm Tawe, y dyfeisiodd y broses a fyddai'n hybu'r Chwyldro Diwydiannol. Ar 5 Chwefror 1837, defnyddiodd Thomas chwythellu poeth (hot blast) i fwyndoddi mwyn haearn a glo carreg.[7] 1842 - y gell danwydd hydrogenYmddangosodd y cyfeiriadau cyntaf at y gell danwydd hydrogen ym 1838 mewn llythyr dyddiedig Hydref 1838 ond a gyhoeddwyd yn rhifyn Rhagfyr 1838 o The London and Edinburgh Philosophical Magazine a Journal of Science. Awdur y llythyr oedd y ffisegydd a'r bargyfreithiwr o Gymru Syr William Grove am ddatblygiad ei gelloedd tanwydd crai cyntaf. Defnyddiodd gyfuniad o blatiau haearn llen, copr a phorslen, a hydoddiant o sylffad copr ac asid gwan.[8][9] 1861 - siopa trwy'r postEntrepreneur Cymreig oedd Syr Pryce Pryce-Jones (16 Hydref 1834 – 11 Ionawr 1920) a ffurfiodd y busnes archebu drwy’r post cyntaf, gan chwyldroi’r ffordd y gwerthid cynhyrchion. Drwy greu’r catalogau mail-order cyntaf ym 1861 – a oedd yn cynnwys nwyddau gwlân – gallai cwsmeriaid archebu drwy’r post, a chludwyd y nwyddau ar y rheilffordd.[10][11] Crynhodd y BBC ei etifeddiaeth fel "Yr arloeswr archebu drwy'r post a ddechreuodd ddiwydiant biliwn o bunnoedd".[12] 1878 - y meicroffon a'r telegraff argraffuRoedd David Edward Hughes (16 Mai 1831 – 22 Ionawr 1900) yn ddyfeisiwr Cymreig, yn arbrofwr ymarferol, ac yn athro cerdd a oedd yn adnabyddus am ei waith ar y telegraff argraffu a'r meicroffon. Symudodd ei deulu o gwmpas ei amser ef felly efallai iddo gael ei eni yn Llundain neu Gorwen.[13] Yn 21 oed dyfeisiodd 'delegraff printio' ac yn 1860 fe'i prynwyd gan Lywodraeth yr U.D. ac o fewn ychydig flynyddoedd roedd yn cael ei defnyddio drwy Ewrop; daeth y Hughes Telegraph System hefyd yn safon drwy Ewrop.[14] 1880 - merched mewn meddygaeth, diwygio cymdeithasolMeddyg Cymreig oedd Frances Elizabeth Hoggan (g. Morgan; 20 Rhagfyr 1843 – 5 Chwefror 1927)[15] a'r fenyw gyntaf o wledydd Prydain i dderbyn doethuriaeth mewn meddygaeth o unrhyw brifysgol yn Ewrop. Roedd hi hefyd yn ymarfer meddygaeth arloesol, yn ymchwilydd ac yn ddiwygiwr cymdeithasol a'r meddyg benywaidd cyntaf i gael ei chofrestru yng Nghymru.[16] Agorodd hi a'i gŵr y practis meddygol gŵr-a-gwraig, a par cyntaf yng ngwledydd Prydain. 1884 - cyfreithloni amlosgiadAmlosgodd y Doctor William Price (1800-1893) ei fab ar ben bryn yn Llantrisant yn dilyn ei farwolaeth, a ystyrid yn weithred cableddus yr adeg honno. Tra yn y llys, nododd Price, er nad oedd amlosgi yn gyfreithlon yn y DU, nid oedd ychwaith yn anghyfreithlon. Arweiniodd hyn at Ddeddf Amlosgi 1902. Heddiw, ceir cerflun o Price yn Llantrisant.[17] 1886 - ffotograffiaeth gofod dwfnPeiriannydd a dyn busnes Cymreig oedd Isaac Roberts FRS (27 Ionawr 1829 – 17 Gorffennaf 1904)[18] a oedd yn fwyaf adnabyddus am ei waith fel seryddwr amatur, gan arloesi ym maes astro-ffotograffiaeth nifylau. Yr oedd yn aelod o Gymdeithas Seryddol Lerpwl ac yn gymrawd o'r Royal Geological Society. Derbyniodd Roberts hefyd Fedal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol yn 1895. 1896 - peiriant hedfan cynnarWilliam (Bill) Frost (1848-1935) oedd y person cyntaf i hedfan awyren a oedd yn cael ei bweru gan beiriant.[19] Yr oedd yn gynllunydd Cymreig o beiriant hedfan cynnar, y Frost Airship Glider. Dechreuodd uchelgais Frost i ddyfeisio'r peiriant hedfan yn ~1880.[20] Er gwaethaf ei dlodi, llwyddodd i adeiladu'r "Frost Airship Glider", sy'n ymddangos, mewn egwyddor, i fod yn debyg i awyren esgyn fertigol, gyda thanciau llawn nwy.[21] 1896 - Seneddwr Iechyd y Cyhoedd a'r Unol DaleithiauGaned Dr Martha Hughes Cannon (1857-1932) yn Llandudno cyn iddi ymfudo i'r Unol Daleithiau. Gweithiodd fel meddyg a threuliodd lawer o'i hamser fel Swffragét yn ogystal ag fel diwygiwr iechyd cyhoeddus. Ym 1896 daeth yn seneddwr talaith (state senator) benywaidd cyntaf yr Unol Daleithiau a chyflwynodd filiau deddfwriaethol a chwyldrodd iechyd cyhoeddus yn Utah. Mae adeilad yr Adran Iechyd, yn Salt Lake City, wedi’i enwi ar ei hôl.[17] 1904 - yr olwyn sbârEr mwyn hwyluso'r broses anodd o newid teiar, dyfeisiodd Walter Davies a Tom Davies o Lanelli, y teiar sbâr yn 1904. Ar y pryd, roedd ceir modur yn cael eu gwneud heb olwynion sbâr.[22][23] 1934 - Llawfeddygaeth offthalmigLlawfeddyg offthalmig Cymreig oedd Tudor Thomas (23 Mai 1893 – 23 Ionawr 1976) a ddaeth i sylw'r byd yn 1934 pan wnaeth waith arloesol yn impio cornbilen a adferodd olwg dyn a oedd yn ddall ers 27 mlynedd. Bu hefyd yn athro clinigol i Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru.[24] 1935 - radarFfisegydd Cymreig oedd Edward George Bowen, CBE, FRS (14 Ionawr 1911 – 12 Awst 1991)[25] a wnaeth gyfraniad mawr i ddatblygiad radar. Chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu seryddiaeth radio yn Awstralia a'r Unol Daleithiau. 1936-1939 - "Tad meteoroleg fodern"Mae David Brunt (1886-1965) yn adnabyddus am droi rhagolygon y tywydd yn wyddoniaeth a elwir yn Wyddor Tywydd). Rhwng 1936 a 1939 cyfrannodd at y ddealltwriaeth ddamcaniaethol o wasgaru niwl a defnyddiwyd y wybodaeth hon wrth ddatblygu system wasgaru niwl FIDO.[26] 1963 - cwch chwyddadwy anhyblyg (RIB)Mae'r RIB yn gwch ysgafn, perfformiad uchel a chynhwysedd uchel wedi'i adeiladu gyda gwaelod cragen anhyblyg wedi'i gysylltu â thiwbiau aer sy'n ffurfio ochrau ac sy'n cael eu chwythu i bwysedd uchel. Mae'r dyluniad yn sefydlog, yn ysgafn, yn gyflym ac yn addas i'r môr. Mae'r coler chwyddedig yn gweithredu fel siaced achub, gan sicrhau bod y llong yn cadw ei hynofedd, hyd yn oed os y daw dŵr i'r cwch. Yn wreiddiol, myfyrwyr a staff Coleg yr Iwerydd yn Ne Cymru oedd yn gyfrifol am ddatblygu'r RIB, dan gyfarwyddyd Desmond Hoare a oedd wedi ymddeol, ac a oedd yn bennaeth ar yr ysgol.[27] 1965 - newid pecynnauYm 1965 cafodd Donald Davies chwip o syniad, sef switsio pecynnau, sydd heddiw'n brif sail ar gyfer cyfathrebu data mewn rhwydweithiau cyfrifiadurol ledled y byd. Cynigiodd Davies rwydwaith cenedlaethol masnachol yn y Deyrnas Unedig a dyluniodd ac adeiladodd rwydwaith NPL ardal leol i arddangos y dechnoleg. Roedd llawer o'r rhwydweithiau cyfnewid pecynnau ardal eang a adeiladwyd yn y 1970au yn debyg iawn i'w ddyluniad gwreiddiol ef ym 1965. Rhoddodd prosiect ARPANET glod i Davies am ei ddylanwad, a oedd yn allweddol i ddatblygiad y Rhyngrwyd.[28][29][30][31][32][33][34] 1969 - y swigan lyshDyfeisydd y swigan lysg neu'r Alcoholmedr oedd Tom Parry Jones (27 Mawrth 1935 - 11 Ionawr 2013)[35]. Sefydlodd Lion Laboratories yng Nghaerdydd yn 1967, ac yna'r cwmni PPM Technology a Welsh Dragon Aviation. Fe'i derbyniwyd yn aelod o'r Orsedd yn 1997. 1973 - effaith JosephsonDyfarnwyd Gwobr Nobel mewn Ffiseg i Brian Josephson, y ffisegydd Cymreig, ym 1973 am ei ragfynegiad o effaith Josephson, a wnaed yn 1962 pan oedd yn fyfyriwr PhD 22 oed ym Mhrifysgol Caergrawnt. Hyd at 2023, Josephson oedd yr unig Gymro i ennill Gwobr Nobel mewn Ffiseg. Rhannodd y wobr gyda'r ffisegwyr Leo Esaki ac Ivar Giaever.[36][37] 1976 - anadlydd electronigYn 1967 yng Nghaerdydd, datblygodd a marchnataodd Bill Ducie a Tom Parry Jones yr anadlydd electronig cyntaf: yr hyn a elwir ar lafar yn "swigen lysh". Sefydlodd y ddau labordy Lion yng Nghaerdydd. Peiriannydd trydanol siartredig oedd Ducie, a Tom Parry Jones yn ddarlithydd yn UWIST.[38] Cyflwynodd Deddf Diogelwch Ffyrdd 1967 y lefel uchaf o alcohol yn y gwaed cyntaf ar yrwyr yn y DU.[39] Gweler hefydCyfeiriadau
Information related to Darganfyddiadau a dyfeisiau Cymreig |
Portal di Ensiklopedia Dunia