Canu pop a roc yn yr Ynys Las
![]() Er gwaethaf ei lleioliad daearyddol anghysbell a phoblogaeth o lai na 50,000 ac iaith unigryw, mae canu poblogaidd roc cynhenid yr Ynys Las yn boblogaidd ac yn denu sylw tu allan i'r Ynys Las.[1] HanesTan canol yr 20g, roedd yr Ynys Las wedi'i hynysu oddi ar ganu poblogaidd Gogledd America ac Ewrop. Un o'r bandiau cyntaf i ddod o'r genedl sy'n hunanlywodraethol ond yn rhan o Deyrnas Denmarc], oedd yr Nuuk Orleans Jazz Band.[2] RocDechreuodd canu pop a roc yr Ynys Las yn 1973 pan gyhoeddwyd yr albwm Sumut gan y band Sume ar label ULO, un o'r labeli recordio cyntaf.[3] Roedd Sumut yn boblogaidd iawn ledled y wlad. Prynodd tua ugain y cant o boblogaeth yr Ynys Las y record, gyda chanu yn yr iaith Kalaallisut (gelwir hefyd yn 'Glasynyseg') a rhoi lle amlwg i ddrwm-ddawnsio traddodiadol yn y caneuon. Cymerodd y canwr, Rasmus Lyberth, ran yn y proses o ddewis cân i Ddenmarc ar gyfer Cystadleuaeth Cân Eurovision yn 1979. Cân yn Kalaallisut oedd honno. Ffurfiwyd nifer o fandiau roc a pop yn y 1980au a 1990au. Enghreifftiau da o fandiau roc oedd G-60 ac Ole Kristiansen, a bandiau ysbrydolwyd gan reggae Jamaica a ffync Affro-Americanaidd oedd Aalut a Zikaza. Gwerthodd albwm cyntaf Zikaza 10,000 o gopiau (oddeutu 50,000 yw poblogaeth yr Ynys Las). Yn lle derbyn disg aur neu blatinwm fel gwobr, derbynasant ddisg croen morlo. Cynhelir yr ŵyl roc Nipiaa pob blwyddyn yn Aasiaat, a cantorion poblogaidd yw Chilly Friday, a gwddf-gantoresau Sylvia Watt-Cloutier a Karina Moller. Bandiau roc enwog eraill ydy Kalaat, Siissisoq, Angu Motzfeldt, Pukuut, X-it, Fiassuit, Nanook, Small Time Giants a Ultima Corsa. Cerddoriaeth metal sy'n dod yn fwy amlwg yn yr Ynys Las, er enghraifft Arctic Spirits. Maen nhw'n canu yn Kalaallisut yn unig. ![]() Hip hopErs 1984, hip hop America oedd dylanwad pwysig. Nuuk Posse ydy un band hip hop llwyddiannus diweddar.[3] Diwydiant cerddoriaethY label recordio mwyaf yn yr Ynys Las ydy ULO, o Sisimiut; ffurfiwyd ef gan Malik Hoegh (aelod o'r band Sume) a Karsten Sommer o Ddenmarc.[4] ULO sy'n cyhoeddi albymau gan bandiau roc fel Sume, cantorion roc fel Rasmus Lyberth,[5] a bandiau hip hop fel Nuuk Posse yn ogystal â chanu traddodiadol.[3] Kalaallit Nunaata Radioa (Radio yr Ynys Las) ydy'r sefydliad cyfryngau pwysicaf yn y wlad. Caneuon
Dolenni
Cyfeiriadau
Information related to Canu pop a roc yn yr Ynys Las |
Portal di Ensiklopedia Dunia