Roedd hi'n sedd diogel i Lafur o 1945 tan 1979, ond ers hynny mae hi wedi bod yn sedd ymylol rhwng y Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Collodd Llafur oherwydd y daeth y diwydiant trwm yn Nhe-Orllewin Brycheiniog i ben yn y 1960au a'r 1970au.
Ar 22 Mawrth 2019 plediodd Davies yn euog i gyhuddiadau o dwyll wrth gyflwyno hawliad am dreuliau seneddol. Roedd yr euogfarn yn cychwyn deiseb awtomatig yn yr etholaeth i weld os oedd yr etholwyr am iddo barhau i'w cynrychioli yn y Senedd.[1] Ar 21 Mehefin 2019, cyhoeddwyd bod 19% o bleidleiswyr wedi deisebu i adalw Davies. Gan fod hyn yn fwy na'r trothwy o 10%, datganwyd bod ei sedd yn wag a bod angen isetholiad.[2]
Cafodd Davies ei ddewis gan y Blaid Geidwadol i ail sefyll yn yr isetholiad fel ymgeisydd y blaid.[3]. Penderfynodd Plaid Cymru[4] a'r Blaid Werdd i beidio â chodi ymgeisydd i sefyll yn erbyn Davies er mwyn gwella cyfle Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol i ennill. Roedd Plaid Cymru, y Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Y gred oedd mai'r Rhyddfrydwyr Democrataidd oedd y blaid aros mwyaf tebygol o ennill yr etholiad,[5] a fellu fu, gyda Dodds yn cipio'r sedd.