Is-etholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed, 2019
Cynhaliwyd isetholiad ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed i ethol Aelod Seneddol ar gyfer Senedd y Deyrnas Gyfunol ar 1 Awst 2019. Galwyd yr isetholiad ar ôl i Chris Davies, a oedd wedi dal sedd y Ceidwadwyr ers etholiad cyffredinol 2015, gollir'r sedd drwy ddeiseb.[1][2] Enillwyd yr isetholiad gan Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae sedd gyda'r un enw (Brycheiniog a Sir Faesyfed) a'r un ffiniau'n bodoli i ethol Aelod Cynulliad i Gynulliad Cymru ac a gynrychiolwyd yn 2019 gan Kirsty Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol (ers ei chreu ym 1999).[3] Roedd yr isetholiad o bwys mawr drwy'r Deyrnas Gyfunol, gan ei bod yng nghanol stormydd gwleidyddol Brexit. Mae'r etholaeth yn gorwedd o fewn sir Powys, ac yn etholiad Senedd Ewrop 2019, y Blaid Brexit enillodd y nifer fwyaf o bleidleisiau.[4] Roedd Boris Johnson hefyd newydd gael ei benodi'n Brif weinidog gyda mwyafrif o ddau. Cefnogwyd Dodds, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, hefyd gan Plaid Cymru, y Gwyrddion, Change UK a'r Blaid Adnewyddu. Dywedodd arweinwyr Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol ei bod hi'n bwysig fod pleidiau sydd am weld y DU yn aros yn o'r Undeb Ewropeaidd yn "cydweithio".[5] Colli seddCollodd Chris Davies, yr Aelod Seneddol Ceidwadol ei sedd yn sgil ei gael yn euog o dwyll, ond ceisiodd adennill y sedd yn ôl i'r Ceidwadwyr.[5] Yn Chwefror 2019, cyhuddwyd Davies o hawlio treuliau ffug, dan Ddeddf Safonau Seneddol 2009.[6] Plediodd yn euog ym Mawrth ac, yn Ebrill cafodd ei ddedfrydu i orchymyn cymunedol o 50 awr o waith di-dâl a dirwy o £1,500.[7][8] CanlyniadauCanlyniad yr is-etholiad
Canlyniad etholiad 2017
Gweler hefydCyfeiriadau
Information related to Is-etholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed, 2019 |
Portal di Ensiklopedia Dunia