Y Blaid Geidwadol (DU)
Mae'r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Saesneg:The Conservative and Unionist Party) yn blaid wleidyddol canol-dde yn y Deyrnas Unedig. Fe'i hadnabyddir hefyd fel Y Blaid Geidwadol, Ceidwadwyr, y Blaid Dorïaid neu'n llai ffurfiol Torïaid. Sefydlwyd y blaid yn ei ffurf bresennol pan unodd gyda'r 'Rhyddfrydwyr Unoliaethol' (Liberal Unionist Party) a newidiwyd yr enw i 'Blaid Geidwadol ac Unoliaethol', sy'n parhau i fod yr enw swyddogol a chyfreithiol. Yn hanesyddol fe'i hystyrir yn brif blaid yr asgell dde gymhedrol. Yn 2014 roedd ganddi fwy o Aelodau Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin ac yn llywodraethu mewn clymblaid gyda'r Rhyddfrydwyr Democrataidd. Yn ystod yr 20g, hi oedd un o'r ddwy blaid gryfaf; bu'n llywodraethu am 57 mlynedd, gan gynnwys dan arweinyddiaeth Winston Churchill (1940–45, 1951–55) a Margaret Thatcher (1979–90). Erbyn diwedd yr 20g, y Ceidwadwyr hefyd oedd y prif wrthwynebydd i'r Senedd Ewropeaidd. Y Blaid Geidwadol yng Nghymru
Yn yr Etholiad Cyffredinol 1997 collodd y blaid bob un o'i seddi yng Nghymru, ond yn yr Etholiad Cyffredinol 2005, fe ailgipiwyd tair ohonynt. Yn dilyn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007, bu gan y blaid 12 o'r 60 sedd; ar ôl 2013 hi oedd ail blaid fwyaf Cymru (o ran nifer yr aelodau seneddol), gyda Phlaid Cymru'n drydedd. Cafodd y blaid etholiad cyffredinol ysgubol yn Rhagfyr 2019 gan ennill 14 Sedd allan o'r 40 Sedd Gymreig yn y Tŷ’r Cyffredin. Dyma gynnydd o 6 sedd o'r Blaid Llafur i'r Blaid Geidwadol. Torrwyd wal goch Llafur yn y Gogledd Ddwyrain gan adael un fricsen goch sef etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy. Yn ôl nifer dyma berfformiad gwaethaf Llafur ers dyddiau Margaret Thatcher yn y 80au.[4] PerfformiadCyfeiriadau
Dolenni allanol
Information related to Y Blaid Geidwadol (DU) |
Portal di Ensiklopedia Dunia