Môr y Caribî
Môr trofannol yn Hemisffer y Gorllewin sy'n rhan o Gefnfor yr Iwerydd i dde-ddwyrain Gwlff Mexico yw Môr y Caribî. Ceir nifer o enwau eraill ar y mor hwn gan gynnwys: Sbaeneg: Mar Caribe; Ffrangeg: Mer des Caraïbes; Creol Haiti: Lamè Karayib; Siamaiceg: Kiaribiyan Sii; Iseldireg: Caraïbische Zee; Papiamento: Laman Karibe. Mae'n rhoi ei enw i'r ardal o'i amgylch, a adwaenir fel y Caribî. Mae Mecsico a Chanolbarth America yn ffinio ag ef i'r gorllewin a'r de-orllewin; i'r gogledd ei ffin yw yr Antilles Fwyaf gan ddechrau gyda Chiwba, ac Antilles Leiaf i'r dwyrain, ac i'r de mae arfordir gogleddol De America. Môr y Caribî yw un o'r moroedd mwyaf ac mae ganddo arwynebedd o tua 2,754,000 km2 (1,063,000 metr sgwâr).[1][2] Pwynt dyfnaf y môr yw Cafn Cayman, rhwng Ynysoedd y Cayman a Jamaica, sydd 7,686 m (25,217 tr) o dan lefel y môr. Mae gan arfordir y Caribî lawer o gylffau a baeau: Gwlff Gonâve, Gwlff Venezuela, Gwlff Darién, Golfo de los Mosquitos, Gwlff Paria a Gwlff Honduras. Mae gan Fôr y Caribî y barriff[3] ail fwyaf yn y byd, sef y barriff Mesoamericanaidd. Mae'n gorwedd 1,000 km (620 milltir) ar hyd arfordiroedd Mecsico, Belîs, Gwatemala, a Hondwras.[4] Mae Barbados yn ynys ar yr un silff gyfandirol, ond ystyrir ei bod yng Nghefnfor yr Iwerydd yn hytrach na Môr y Caribî.[5] HanesMae'r enw "Caribî" yn deillio o'r Caribiaid, un o grwpiau Americanaidd Brodorol amlycaf y rhanbarth a hynny pan y cyhaeddodd yr Ewropeaid cyntaf ar ddiwedd y 15gf. Ar ôl i Christopher Columbus lanio yn y Bahamas ym 1492, roedd y term Sbaenaidd "Antilles" yn berthnasol i'r tiroedd hyn; yn deillio o hyn, daeth "Môr yr Antilles" yn enw amgen cyffredin ar gyfer "Môr y Caribî" mewn amryw o ieithoedd Ewropeaidd. Yn ystod y ganrif gyntaf o ddatblygiad, roedd goruchafiaeth Sbaen a'i byddin ddidrugaredd yn gadarn. O'r 16g, bedyddiodd Ewropeaid a ymwelodd â'r Caribî yn "Fôr y De" (y Cefnfor Tawel, i'r de o isthmws Panama) yn hytrach na "Môr y Gogledd" (Môr y Caribî, i'r gogledd o'r un isthmws).[6] Roedd Môr y Caribî wedi bod yn anhysbys i boblogaethau Ewrasia tan 1492, pan hwyliodd Christopher Columbus i ddyfroedd y Caribî ar ymgais i ddod o hyd i lwybr dros y môr i Asia. Bryd hynny nid oedd Hemisffer y Gorllewin yn hysbys i Ewropeaid, yn gyffredinol, er iddo gael ei ddarganfod rhwng y blynyddoedd 800 a 1000 gan y Llychlynnwr. Ar ôl i Columbus 'ddarganfod' yr ynysoedd, gwladychwyd yr ardal yn gyflym gan sawl diwylliant Gorllewinol (Sbaen i ddechrau, yna Lloegr yn ddiweddarach, Gweriniaeth yr Iseldiroedd, Ffrainc, a Denmarc). Yn dilyn gwladychu ynysoedd y Caribî, daeth Môr y Caribî yn ardal brysur ar gyfer masnachu morol a chludiant i Ewrop, ac yn y pen draw denodd y fasnach hon fôr-ladron fel Bartholomew Roberts (Barti Ddu), Samuel Bellamy a Harri Morgan. Yn 2015 roedd yr ardal yn gartref i 22 o diriogaethau-ynysoedd ac yn ffinio â 12 gwlad gyfandirol. DaearegMôr cefnforol yw Môr y Caribî sydd wedi'i leoli i raddau helaeth ar Blât y Caribî. Mae Môr y Caribî wedi'i wahanu o'r cefnfor gan sawl bwa o ynysoedd, o wahanol oedrannau. Mae'r ieuengaf yn ymestyn o'r Antilles Leiaf i Ynysoedd y Wyryf i'r gogledd-ddwyrain o Trinidad a Tobago oddi ar arfordir Feneswela. Ffurfiwyd yr bwa hwn gan wrthdrawiad Plât De America â Plât y Caribî ac mae'n cynnwys llosgfynyddoedd gweithredol a rhai marw, fel Montagne Pelée y Quill (llosgfynydd) ar Sint Eustatius yng Ngharibî'r Iseldiroedd a Morne Trois Pitons ar Dominica. Ceir ynysoedd mwy yn rhan ogleddol y môr, gan gynnwys: Ciwba, Hispaniola, Jamaica a Puerto Rico ar fwa o ynysoedd hŷn. Amcangyfrifir bod oedran daearegol Môr y Caribî rhwng 160 a 180 miliwn o flynyddoedd ac fe'i ffurfiwyd gan doriad llorweddol a holltodd yr uwch-gyfandir o'r enw Pangea yn y Cyfnod Mesosöig.[7] Yn y Triasig, arweiniodd hollti pwerus at ffurfio cafnau cul, gan ymestyn o'r Newfoundland modern i arfordir gorllewinol Gwlff Mecsico a ffurfiodd greigiau gwaddodol siliciclastig. Yn gynnar yn y Jwrasig oherwydd symudiad morol pwerus, torrodd dŵr i mewn i ardal bresennol Gwlff Mecsico gan greu pwll bas helaeth. Ymddangosodd basnau dwfn yn y Caribî oherwydd symudiadau Jwrasig Canol. Roedd ymddangosiad y basnau hyn yn nodi dechrau Cefnfor yr Iwerydd ac yn cyfrannu at ddinistr y Pangea ar ddiwedd y Jwrasig Hwyr. Yn ystod y Cyfnod Cretasaidd cafodd y Caribî ei siâp presennol. Yn gynnar yn y Paleogen oherwydd atchweliad morol gwahanwyd y Caribî oddi wrth Gwlff Mecsico a Chefnfor yr Iwerydd gan dir Ciwba a Haiti. Arhosodd y Caribî fel hyn am y rhan fwyaf o'r Cainosöig tan yr Holosen pan adferwyd lefelau dŵr y cefnforoedd. EcolegMae'r Caribî yn gartref i tua 9% o riffiau cwrel y byd sy'n gorchuddio tua 50,000 km2 (19,000 metr sgwâr), y mwyafrif ohonynt oddi ar Ynysoedd y Caribî ac arfordir Canolbarth America.[8] Yn eu plith mae Barriff Belîs (Belize Barrier Reef) gydag ardal o 963 km2 (372 metr sgwâr) a gofrestrwyd yn Safle Treftadaeth y Byd ym 1996. Mae'n rhan o Farriff Mawr y Maya (Great Mayan Reef) a elwir hefyd yn MBRS ac mae dros 1,000 km ( 600 milltir) o hyd - yr ail hiraf yn y byd. Mae'n gorwedd ar hyd arfordiroedd Caribïaidd Mecsico, Belîs, Gwatemala ac Hondwras. Yn y 2010au mae dyfroedd anarferol o gynnes y Caribî wedi bod yn bygwth riffiau cwrel yr ardal fwyfwy. Mae riffiau cwrel yn cynnal rhai o'r cynefinoedd morol mwyaf amrywiol yn y byd, ond maent yn ecosystemau bregus. Pan fydd dyfroedd trofannol yn cynesu am gyfnodau estynedig, mae planhigion microsgopig o'r enw zooxanthellae yn marw. Mae'r planhigion hyn yn darparu bwyd i'r cwrelau, ac yn rhoi eu lliw iddynt. Gelwir canlyniad marwolaeth a gwasgariad y planhigion bach hyn yn "wynu cwrel", a gall arwain at ddinistrio ardaloedd mawr o rîff. Mae dros 42% o gwrelau wedi'u gwynu'n llwyr ac mae 95% yn profi rhyw fath o wynnu.[9] Yn hanesyddol credir bod y Caribî yn cynnwys 14% o riffiau cwrel y byd.[10] HinsawddMae hinsawdd y Caribî yn cael ei yrru gan y ceryntau lledred isel a chefnforoedd trofannol sy'n rhedeg trwyddo. Prif gerrynt y cefnfor yw Cerrynt Cyhydeddol y Gogledd, sy'n dod i mewn i'r rhanbarth o'r Môr Iwerydd trofannol. Mae hinsawdd yr ardal yn drofannol, yn amrywio o goedwig law drofannol mewn rhai ardaloedd i safana trofannol mewn ardaloedd eraill. Mae yna hefyd rai lleoliadau sy'n hinsoddau cras gyda sychder sylweddol ar adegau. Mae glawiad yn amrywio yn ôl drychiad, maint a cheryntau dŵr; mae gwynt oer yn cadw Ynysoedd ABC (Arwba, Bonaire a Curaçao) yn sych. Mae gwyntoedd cyson, cynnes, llaith yn chwythu'n o'r dwyrain, gan greu hinsoddau coedwig law a lled-gras ar draws y rhanbarth. Mae hinsoddau'r fforest law drofannol yn cynnwys ardaloedd o iseldir ger Môr y Caribî o Costa Rica i'r gogledd i Belîs, yn ogystal â'r Weriniaeth Ddominicaidd a Puerto Rico, tra bod yr hinsoddau safana trofannol sych a mwy tymhorol i'w cael yng Nghiwba, gogledd Feneswela, a de Yucatan, Mecsico. Mae hinsoddau cras i'w cael ar hyd arfordir deheuol eithafol Feneswela allan i'r ynysoedd gan gynnwys Aruba a Curaçao, yn ogystal â blaen gogleddol Yucatan.[11] Cyfeiriadau
Information related to Môr y Caribî |
Portal di Ensiklopedia Dunia