Y Corân
Testun sanctaidd canolog Islam yw'r Corân[1][2] neu weithiau yn Gymraeg Cwrân[2] neu Alcoran[3] (Arabeg: القرآن al-qur'ān, yn llythrennol "yr adroddiad"; sy'n cael ei ysgrifennu sawl ffordd, e.e. Qur'an neu Al-Qur'an). Cred Mwslimiaid fod y Corân yn llyfr sy'n rhoi arweiniad dwyfol i'r ddynolryw, ac ystyriant fod y testun (yn yr Arabeg wreiddiol) yn cynrychioli datguddiad dwyfol olaf Duw (Allah). Yn ôl dysgeidiaeth Islam, cafodd y Corân ei ddatguddio i'r Proffwyd Muhammad gan yr angel Gabriel yn ysbeidiol dros gyfnod o 23 o flynyddoedd. Mae Mwslimiaid yn gweld y Corân fel yr olaf mewn cyfres o negeseuon dwyfol sy'n cychwyn gyda'r rhai a ddatguddiwyd i Adda, a ystyrir yn broffwyd cyntaf Islam, ac a barhawyd gyda'r Suhuf-i-Ibrahim (Sgroliau Abraham), y Tawrat (Torah neu ran gyntaf yr Hen Destament), y Zabur (Llyfr y Salmau), ac yn olaf yr Injil (Efengyl, sy'n cyfateb i rannau o'r Testament Newydd). Er nad yw'r llyfrau hynny yn cael eu cynnwys yn y Corân ei hun, caent eu hadnabod ynddo fel testunau o darddiad dwyfol. Yn ogystal, mae'r Corân yn cyfeirio at sawl digwyddiad a geir yn yr ysgrythurau Iddewig a Christnogol, gan ailadrodd yr hanesion mewn ffordd sy'n gwahaniaethu rhywfaint o'r hyn a geir yn y testunau hynny, a gan grybwyll yn ogystal, yn llai manwl, ddigwyddiadau eraill ynddynt. ![]() Un gwahaniaeth mawr rhwng y Corân a'r Beibl a'r Torah yw'r ffaith nad ydyw fel rheol yn cynnig disgrifiadau manwl o ddigwyddiadau; ceir y pwyslais i gyd ar arwyddocâd ysbrydol a moesol digwyddiadau yn hytrach na threfn gronolegol neu naratifol. Ceir manylion llawnach o lawer am ddigwyddiadau hanesyddol neu led-hanesyddol yn yr Hadithau gan Fuhammad ac yn adroddiadau'r Sahabah (Cydymdeithion Muhammad). Mae penillion y Corân, sydd mewn rhyddiaith odledig, yn deillio o'r traddodiad llafar, a chawsant eu cadw ar gof gan gydymdeithwyr Muhammad a'u trosglwyddo ar lafar am genhedlaeth neu ddwy. Yn ôl y traddodiad Sunni, coladwyd y Corân a'i gofnodi ar femrwn yn amser y Califf Abu Bakr, dan arweiniad Zayd ibn Thabit Al-Ansari. Cafodd y llawysgrif(au) ei throsglwyddo wedyn ar ôl marwolaeth Abu Bakr, ond mae'r manylion yn amrywio gyda fersiwn y Shia yn wahanol i fersiwn y Sunni. LlyfryddiaethCyfieithiad CymraegFel yn achos y Beibl, ceir nifer o argraffiadau o'r Corân mewn sawl iaith, ond hyd yn hyn ni cheir y testun cyfan yn y Gymraeg. Ceir detholiad a gyhoeddir gan y Gymuned Fwslim Ahmaddiya ym Mhrydain yn:
Astudiaethau
Gweler hefydDolenni allanol
Cyfeiriadau
Information related to Y Corân |
Portal di Ensiklopedia Dunia