Craig-y-don
Maesdref o Landudno, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Craig-y-don[1] neu Craig-y-Don.[2] Fe'i lleolir yng nghymuned Llandudno; yn ogystal mae'n rhan o blwyf eglwysig Llanrhos. Mae Craig-y-don yn cynnwys arfordir a'i rhodfa môr ar Fae Llandudno i'r de-ddwyrain o'r dref, gan gynnwys: East Parade, Craig-y-Don Parade, Bedford Crescent a Ffordd Colwyn i gyfeiriad Rhiwledyn a Bae Penrhyn i'r dwyrain. Ar un adeg bu cryn dipyn o dir glas rhwng Craig-y-don a'r dref, ond dros y degawdau diwethaf codwyd sawl adeilad a chaonlfan siopio yno. Cyferbyn Caeau Bodafon ar ddiwedd y prom ceir pwll ymdrochi i blant gyda chaffi a chyfleusterau eraill. Mae'r traeth yn braf, yn gymysg o gerrig mân a thywod, a chyfyd creigiau calchfaen Rhiwledyn yn ei ben eithaf. Ceir y rhan fwyaf o'r siopau ar Ffordd y Frenhines ac ardal breswyl o'i gwmpas. I'r de o Ffordd y Frenhines ceir sawl ffordd fel Roumania Drive a enwyd i ddathlu ymweliad Carmen Sylva, brenhines Rwmania, â Llandudno ym 1890. Tu ôl i'r ardal breswyl cyfyd bryn coediog Gloddaeth, sy'n gorwedd rhwng Craig-y-don, Llanrhos a Bae Penrhyn, ac a fu'n rhan o dir plasdy hynafol Gloddaeth. Mae'r eglwysi yn cynnwys Eglwys Sant Paul (Eglwys yng Nghymru) ger y rhodfa môr, a godwyd ym 1893/95. Fel y rhan fwyaf o Landudno, mae canran uchel o dir Craig-y-don yn eiddo i ystad teulu Mostyn, sy'n un o dirfeddianwyr mwyaf gogledd Cymru. Ni fu'r ardal yn arbennig o Gymraeg ers iddi ddechrau datblygu ddiwedd y 19eg ganrif, ond erbyn heddiw ceir canran uchel o bobl o Loegr a lleoedd eraill wedi symud yno i ymddeol. Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi Information related to Craig-y-don |
Portal di Ensiklopedia Dunia