Ysgrech y coed
Mae Ysgrech y coed neu Sgrech y coed (Garrulus glandarius) yn aelod o deulu'r brain. Mae'n nythu trwy ran helaeth o Ewrop, Asia a gogledd-orllewin Affrica. Gellir adnabod yr aderyn yn hawdd, er fod amryw o is-rywogaethau sy'n amrywio cryn dipyn. Mae'r corff yn liw pinc gyda plu glas tarawiadol iawn ar yr adain, ac mae darn gwyn mawr uwchben y gynffon sy'n amlwg iawn pan mae'r aderyn yn hedfan. Mae'r alwad yn nodweddiadol hefyd, ysgrech sy'n rhoi ei enw i'r aderyn. Gall hefyd ddynwared adar eraill. Ceir Ysgrech y Coed mewn coedwigoedd neu lle mae cymysgedd o goed a chaeau. Mae'n bwydo mewn coed ac ar lawr, ac mae mês yn rhan bwysig o'i fwyd. Gall hefyd fwyta pryfed, aeron, wyau a chywion adar eraill, malwod, llygod ac amrywiaeth o bethau eraill. Mae'n nythu mewn coeden ac yn dodwy 4-6 wy. Mae Ysgrech y Coed yn aderyn cyffredin yng Nghymru, ac mae ei niferoedd wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf. Ymfudo ac allfudoEnghreifftiau:
Cyfeiriadau
Information related to Ysgrech y coed |
Portal di Ensiklopedia Dunia