Y Ffin
Drama lwyfan Gymraeg gan Gwenlyn Parry yw Y Ffin neu Y Ffîn, a gomisiynwyd gan Gwmni Theatr Cymru ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Clwyd 1973. Fe'i cyhoeddwyd gan Wasg Christopher Davies ym 1975, ac ail gyhoeddwyd ym 1986. Lleolir y ddrama ar ei chychwyn mewn 'cwt bugail ar ochor mynydd', ond sy'n cael ei weddnewid yn gyfangwbl erbyn yr ail act.[1] Wrth i Williams a Now ymweld â'r hen gwt, mae ymwelydd annisgwyl yn codi helynt rhwng y tri. Cefndir"Fe ddechreuodd Y Ffin rhyngom ryw saith mlynedd yn ôl [1966] - mewn car ar daith o Gaernarfon i Gaerdydd," yn ôl John Hefin [Evans], pan gyhoeddwyd y ddrama am y tro cyntaf ym 1975:
Gwelwyd y ddrama fel yr olaf mewn cyfres o dair, gyda Saer Doliau a Tŷ Ar Y Tywod yn ei rhagflaenu. "Roedd hyn yn fwy eglur i Dafydd [David Lyn] a Gaynor, oherwydd bu'r ddau'n actio yn ddrama gyntaf - Saer Doliau," yn ôl John Hefin. "Sylwodd Eilian nad oedd yna'r un araith hir yn Y Ffin a'r gwahaniaeth amlwg rhwng y dechneg o'i chymharu â'r areithiau yn Tŷ Ar Y Tywod. Roeddem i gyd, yn enwedig Wil a Dewi, y Rheolwr Llwyfan, yn sylweddoli, gyda phryder, ar gymaint o waith fyddai'n rhaid wrtho i drawsnewid murddun anniben i dŷ twt o dan lygaid cynulleidfa.", ychwanegodd.[1] Cymeriadau
Cynyrchiadau Nodedig1970au![]() Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Clwyd 1973. Cyfarwyddwr John Hefin; cynllunydd Martin Morley; goleuo Murray Clark; rheolwr llwyfan Gwynfryn Davies; gwisgoedd Gwyneth Roberts; cynorthwywyr Duncan Scott, Dewi Huws, Mike Thomas, Emlyn Owen; cast:
Dolenni allanolWicipedia:Wicibrosiect Llyfrau Gwales Cyfeiriadau
Information related to Y Ffin |
Portal di Ensiklopedia Dunia