12 Years a Slave (ffilm)
Ffilm Brydeinig-Americanaidd hanesyddol, sy'n addasiad o'r cofiant o'r un enw gan Solomon Northup, ydy 12 Years a Slave. Mae'r ffilm yma'n cynnwys trais rhywiol. Rhyddhawyd y ffilm yn 2013 ac mae'n olrhain hanes negro rhydd o Efrog Newydd a herwgipiwyd yn Washington, D.C. yn 1841 ac a werthwyd i gaethwasiaeth. Gweithiodd ar blanhigfa yn nhalaith Louisiana am ddeuddeg mlynedd cyn iddo gael ei ryddhau. Roedd yr argraffiad ysgholheigiadd cyntaf o gofiant Northrup, a gyd-olygwyd gan Sue Eakin a Joseph Logsdon yn 1968, yn olrhain yr hanes gan ddod i'r casgliad fod yr hanes yn hanesddyol gywir. Dyma'r drydedd ffilm i gael ei chyfarwyddo gan Steve McQueen ac a ysgrifennwyd gan John Ridley. Chwaraeodd Chiwetel Ejiofor y brif rôl sef Northup. Chwaraeodd Michael Fassbender, Benedict Cumberbatch, Paul Dano, Paul Giamatti, Lupita Nyong'o, Sarah Paulson, Brad Pitt a Alfre Woodard rolau cefnogol hefyd. Ffilmiwyd y rhan fwyaf o'r ffilm yn New Orleans, Louisiana, o 27 Mehefin tan 13 Awst, 2012, ar gyllideb o $20 miliwn. Defnyddiwyd pedwar lleoliad hanesyddol sef planhigfeydd antebellum: Felicity, Magnolia, Bocage, a Destrehan. O'r pedwar, Magnolia sydd agosaf i'r blanhigfa lle daliwyd Northup mewn gwirionedd. Derbyniodd 12 Years a Slave adolygiadau clodwiw pan gafodd ei ryddhau yn 2013, a chafodd ei enwi'n ffilm y flwyddyn gan nifer o allfeydd cyfryngol. Yn 2014, derbyniodd y ffilm Wobr Golden Globe, a chafodd ei enwebi am naw o Gwobrau'r Acaemi yn cynnwys y Ffilm Orau, y Cyfarwyddwr Gorau i McQueen, yr Actor Gorau i Ejiofor, yr Actor Cefnogol Gorau i Fassbender, a'r Actores Gefnogol Orau i Nyong'o. Cafodd y ffilm ei chydnabod gan British Academy of Film and Television Arts (BAFTA) gyda gwobr y Ffilm Orau yn Chwefror 2014, gyda Ejiofor yn ennill y BAFTA am yr Actor Gorau. Ymhlith y gwobrau a enillwyd y mae Gwobr yr Academi am Ffilm Orau, Dallas-Fort Worth Film Critics Association Award for Best Film. Cast
CyfarwyddwrGanwyd y cyfarwyddwr ffilm Steve McQueen ar 9 Hydref 1969 yn Llundain. Roedd yn fwyaf cynhyrchiol yn 1993 ond ni ellir dweud fod y gwaith wedi cyrraedd enwogrwydd byd-eang. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Gelf Chelsea.
DerbyniadRhoddwyd y marciau canlynol mewn adolygiadau o'r ffilm:
Ymhlith y gwobrau a enillwyd y mae Gwobr yr Academi am Ffilm Orau, Dallas-Fort Worth Film Critics Association Award for Best Film. Mae'r incwm a dderbyniwyd am y ffilm hon dros 187,733,202 $ (UDA). Cyfeiriadau
Information related to 12 Years a Slave (ffilm) |
Portal di Ensiklopedia Dunia