Cyngor Cymru a Mynwy
Roedd Cyngor Cymru a Mynwy (Saesneg: Council for Wales and Monmouthshire) yn gorff ymgynghorol gydag aelodau penodedig a gyhoeddwyd ym 1948 ac a sefydlwyd ym 1949 gan Lywodraeth y DU o dan Brif Weinidog Llafur Clement Attlee, i gynghori'r llywodraeth ar faterion o ddiddordeb Cymreig. Fe'i diddymwyd gyda sefydlu swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a ffurfio'r Swyddfa Gymreig ym 1964/65[1]. Fe'i gelwid yn gyffredinol yn "Gyngor Cymru". HanesFfurfiwyd y Cyngor yn rhannol mewn ymateb i ddylanwad cynyddol Plaid Cymru yn dilyn yr Ail Ryfel Byd[1]. Roedd rhai gwleidyddion Llafur dylanwadol fel Aneurin Bevan, Morgan Phillips a Clement Attlee ei hun yn erbyn datganoli pwerau i Gymru, neu sefydlu swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan y byddai'n annog cenedlaetholdeb Cymreig. Credai Bevan, AS Cymru mwyaf dylanwadol a di-flewyn-ar-dafod ei ddydd, y byddai unrhyw fath o ddatganoli yn tynnu sylw Cymru oddi wrth brif ffrwd wleidyddol gwleidyddiaeth y DU ac yn niweidiol i fuddiannau'r wlad. Fodd bynnag, roedd rhai Aelodau Seneddol meincwyr cefn Cymru fel D. R. Grenfell, W. H. Mainwaring a James Griffiths yn cefnogi sefydlu swydd Ysgrifennydd Gwladol. Fel cyfaddawd, cytunodd y Llywodraeth i sefydlu Cyngor Cymru a Mynwy ond brif swyddogaeth y cyngor oedd i gynghori llywodraeth y DU ar faterion o ddiddordeb Cymreig[1]. Cyhoeddwyd y cynnig i sefydlu Cyngor Cymru Mynwy yn Nhŷ’r Cyffredin ar 24 Tachwedd 1948. Roedd ei gyfarfod agoriadol ym mis Mai 1949, a’i gyfarfod busnes cyntaf y mis canlynol. Ei gylch gorchwyl oedd:
Cafodd 27 aelod eu penodi i'r cyngor: enwebwyd 12 gan awdurdodau lleol Cymru ac roedd Cyd-bwyllgor Addysg Cymru, Prifysgol Cymru, Cyngor Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bwrdd Croeso a Gwyliau Cymru, a'r ochrau rheolwyr ac undebau diwydiant ac amaeth Cymru[3]. Y cadeirydd oedd Huw T. Edwards, arweinydd undeb llafur[4]. Cynhaliwyd cyfarfodydd y Cyngor yn breifat, ffynhonnell o ddadlau[5]. Sefydlodd y cyngor baneli a phwyllgorau amrywiol i ymchwilio i faterion sy'n effeithio ar Gymru, gan gynnwys panel i astudio ac adrodd ar sefyllfa yr Iaith Gymraeg; Panel Gweinyddu Llywodraeth; Panel Diwydiannol; Panel Datblygu Gwledig; Panel Trafnidiaeth; a Phanel Diwydiant Twristiaeth[2]. Cafodd Huw T Edwards ei adnabod fel Prif Weinidog Answyddogol Cymru[6]. Diddymu Gyda thwf dylanwad Plaid Cymru yn y 1950au, argymhellodd y Cyngor y dylid creu Swyddfa Gymreig ac Ysgrifennydd Gwladol i Cymru yn gynnar ym 1957 ond nid oeddhwn yn mynd yn ddigon pell i gadeirydd y Cyngor, Huw T. Edwards. Ymddiswyddodd Edwards a phedwar aelod arall o Gyngor Cymru ym 1958 dros yr hyn a ddisgrifiodd Edwards fel "Whitehallism." Yn ddiweddarach y flwyddyn honno ymunodd Edwards â Plaid Cymru. Collodd y Cyngor ddylanwad , ond cadwodd statws ffurfiol tan 1966[7]. Sefydlodd Swyddfa Gymreig ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 1964 gan Lywodraeth Llafur Harold Wilson, gyda James Griffiths yn cael ei benodi i'r swydd[8]. Dolenni allanol
Cyfeiriadau
Information related to Cyngor Cymru a Mynwy |
Portal di Ensiklopedia Dunia