Cyngor Llyfrau Cymru
Sefydlwyd Cyngor Llyfrau Cymru yn 1961 fel y Cyngor Llyfrau Cymraeg. Erbyn heddiw noddir hi gan Lywodraeth Cymru. Amcanion y Cyngor yw i hybu diddordeb mewn llyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg o ddiddordeb i Gymru, hybu'r diwydiant cyhoeddi, cynorthwyo a chefnogi awduron drwy gynnig amryw o wasanaethau a dosbarthu grantiau. Maent yn darparu gwasanaethau golygu a dylunio i gyhoeddwyr, darparu grantiau i awduron yn ogystal â grantiau cyhoeddwyr er mwyn hybu cyhoeddi llyfrau, gwasanaethau i lyfrgelloedd a chyfanwerthu llyfrau a deunydd perthnasol. Mae pencadlys Cyngor Llyfrau Cymru yng Nghastell Brychan, Aberystwyth ac erbyn hyn, canolfan dosbarthu yn Mharc Busnes Glanyrafon ar gyrion y dref. Mae gan y ganolfan, drosiant o £5.5 miliwn y flwyddyn (net) ac mae 49 o aelodau staff parhaol yn gweithio rhwng y ddau safle. Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio ar y cyd gyda nifer o gyrff a chwmniau eraill megis yr Academi Gymreig, Urdd Gobaith Cymru ac S4C. Mae'nt yn ymwneud â trefnu a hysbysebu gwobrau Llyfr y Flwyddyn, Bardd Plant Cymru a Gwobrau'r Diwydiant Cyhoeddi. Cyhoeddir nifer o daflenni a chatalogau llyfrau bob blwyddyn ar gyfer plant ysgol, a chatalogau ffuglen ac yn y blaen, ar gyfer oedolion. Rhai o'r hen gyhoeddiadau oedd Sbondonics a Sbri-di-ri, a ddaeth i ben yn 2009. Anfonodd y Cyngor dros 1000 o lyfrau Cymraeg i Batagonia yn 2005, gwerth bron i £7,000 er mwyn helpu pobl yno i ddysgu'r Gymraeg.[1] Prif weithredwyrDyma restr o gyfarwyddwyr neu brif weithredwyr y Cyngor ers y cychwyn, gyda'r dyddiad wnaethont gychwyn ei swydd.
Cyfeiriadau
Dolenni allanolInformation related to Cyngor Llyfrau Cymru |
Portal di Ensiklopedia Dunia