Patagonia
Rhanbarth daearyddol yn Ne America yw Patagonia sy'n ymestyn o Tsile ar draws yr Andes i'r Ariannin. Ar ochr Tsile o'r Andes fe ymestyn Patagonia i'r de o ledred 42°D, gan gynnwys rhan ddeheuol rhanbarth politicaidd Los Lagos a rhanbarthau Aysén a Magallanes (heblaw am y rhan o Antártica a hawlir gan Tsile). Ar ochr yr Ariannin o'r Andes fe ymestyn Patagonia i'r de o afonydd Neuquén a Río Colorado, gan gynnwys y taleithiau Neuquén, Río Negro, Chubut, Santa Cruz, Tierra del Fuego, a rhan ddeheuol Talaith Buenos Aires. Deillia'r enw Patagonia o Batagones, sef enw'r bobl gyntaf i gyrraedd yr ardal rhyw 10,000 o flynyddoedd yn ôl.[1] Yn yr Ariannin, mae Patagonia wedi ei rhannu yn bedair talaith:
Daw'r enw o'r gair patagón[2] sef cewir mewn mytholeg a chredwyd eu bod ddwywaith maint dyn - 12 i 15 troedfedd (3.7 i 4.6 m). Gwladfa GymreigYng nghanol y 19g, rhwng 1865 a 1912, cyrhaeddodd minteioedd o Gymry er mwyn sefydlu gwladfa ym Mhatagonia yr Ariannin. Y Wladfa oedd enw'r Cymry hynny ar yr ardal honno. Erys rhai siaradwyr Cymraeg yn nhalaith Chubut hyd heddiw. Er mwyn cynnal y Gymraeg yn Chubut mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn anfon athrawon o Gymru at yr ysgolion Cymraeg yno. Cyfeiriadau
Information related to Patagonia |
Portal di Ensiklopedia Dunia