Coedydd ac Ogofâu Elwy a Meirchion
Mae Coedydd ac Ogofâu Elwy a Meirchion wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 01 Ionawr 1977 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 82.69 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle. O fewn y safle ceir nifer o ogofâ eithriadol bwysig oherwydd y darganfuwyd ynddynt olion dyn ac offer o'r cyfnod cynhanes e.e. Ogof Bontnewydd. Math o safleDynodwyd y safle’n un o statws arbennig ar sail daeareg yn ogystal â bod ynddo fywyd gwyllt o bwys ac o dan fygythiad ee ei choed llydanddail a'i blodau prin. Yn ogystal ag Ogof Bontnewydd mae Ogof Cefn ac Ogof Galltfaenan yn cynnwys olion Pleistosen ac yn rhwydwaith o ogofâu gyda sawl ceg neu fynedfa.[2] Yn Ogof Cefn cafwyd hyd i esgyrn hipopotamws, eliffant, rhinoseros a mamoth ac yng Ngalltfaenon darganfuwyd olion udfil (hiena) ac eirth. Mae Ogofâu Bpontnewydd a Chefn yn Henebion Cofrestredig. CyffredinolMae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig. Gweler hefydCyfeiriadau
Information related to Coedydd ac Ogofâu Elwy a Meirchion |
Portal di Ensiklopedia Dunia