Gorsaf reilffordd Abergele a Phen-sarn
Mae gorsaf reilffordd Abergele a Phen-sarn (Saesneg: Abergele and Pensarn) yn orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu trefi Abergele a Phen-sarn yn sir Conwy, Cymru. Mae'r orsaf yn gorwedd ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru ac fe'i rheolir gan Trafnidiaeth Cymru. Agorwyd dan yr enw Abergele gan reilffordd Caer a Chaergybi ar 1 Mai 1848[1], daeth yn rhan o'r London, Midland and Scottish Railway ystod uno rheilffyrdd 1923. Trosglwyddwyd i ranbarth London Midlands Region o'r Rheilffordd Prydeinig ar adeg gwladoli yn 1948. Pan cyflwynwyd 'Sectorisation', gwasanaethwyd yr orsaf gan Reilffyrdd Rhanbarthol, er i drenau sector Intercity basio drwy'r orsaf ar eu ffordd o Euston Llundain a Chanolbarth Lloegr i Gaergybi. Wedi preifateiddio'r rheilffyrdd Prydeinig, darparwyd gwasanaethau gan Drenau Arriva Cymru.
Information related to Gorsaf reilffordd Abergele a Phen-sarn |
Portal di Ensiklopedia Dunia