Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched
Daeth aelodaeth WSPU yn adnabyddus am anufudd-dod sifil a gweithredu uniongyrchol. Roedd yr aelodau'n aml yn defnyddio tactegau fel heclo (gweiddi ar draws gwleidyddion), cynnal gwrthdystiadau a gorymdeithiau, torri'r gyfraith a gorfodi'r heddlu i'w harestio, torri ffenestri mewn adeiladau amlwg, a rhoi blychau post ar dân. Ar ôl eu carcharu — aeth llawer o'r menywod hyn ar streic newyn, gan ddioddef cael eu bwydo drwy rym. Y dyddiau cynnarSefydlwyd Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod fel mudiad menywod annibynnol ar 10 Hydref 1903 yn 62 Nelson Street, Manceinion, cartref y teulu Pankhurst.[2] Roedd Emmeline Pankhurst, ynghyd â dwy o'i merched, Christabel a Sylvia, a'i gŵr, Richard, cyn ei farwolaeth ym 1898, wedi bod yn weithgar yn y Blaid Lafur Annibynnol (ILP), a sefydlwyd yn 1893 gan Keir Hardie, ffrind i'r teulu.[3] Yn ddiweddarach sefydlodd Hardie y Blaid Lafur. dros amser, teimlai Emmeline Pankhurst nad oedd y Blaid Lafur Annibynnol yn ateb gofynion menywod. Ar 9 Hydref 1903, gwahoddodd nifer o aelodau lleol yr ILP i'w chartref, gan ddweud wrthynt fod yn rhaid i fenywod sefyll ar ei traed eu hunain, ac anogodd fudiad annibynnol i ymgyrchu dros eu hawliau. Nid oedd y mudiad newydd ynghlwm wrth unrhyw blaid, a dim ond merched gai ymuno â hi. Yn Ionawr 1906 datganodd y papur newydd Daily Mail ei fod o blaid etholfraint (suffrage) i ferched a disgrifiodd y merched fel "etholfreinnwyr" sef ""swffragetwyr".[3][3][4] Cyfeiriadau
Information related to Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched |
Portal di Ensiklopedia Dunia