Crogi, diberfeddu a chwarteruO 1351 Crogi, diberfeddu a chwarteru oedd y gosb statudol yn Lloegr ar gyfer dynion a ddyfarnwyd yn euog o deyrnfradwriaeth.[1] Y GosbByddai’r troseddwr yn cael:
Am resymau gwedduster cyhoeddus, byddai menywod a ddyfarnwyd yn euog o deyrnfradwriaeth yn cael eu llosgi wrth y stanc. Hanes cychwynnol y gosb
Dienyddio Dafydd ap GruffuddEr bod pob un o elfennau’r gosb wedi eu defnyddio yn flaenorol ar gyfer troseddwyr, dyfeisiwyd yr union drefn uchod er mwyn dienyddio'r tywysog Dafydd ap Gruffudd ar ôl iddo droi yn erbyn y brenin Edward I o Loegr a chyhoeddi ei hun yn Dywysog Cymru ac Arglwydd Eryri. Gwylltiwyd Edward gymaint gan wrthryfel Dafydd nes iddo fynnu cosb nofel[3]. Felly, yn dilyn ei ddal a'i roi ar brawf ym 1283, am ei frad cafodd ei lusgo gan geffyl i'w le dienyddio. Fe'i cosbwyd fel a ganlyn: am ladd uchelwyr Lloegr cafodd hanner ei grogi. Am ladd uchelwyr ar ŵyl sanctaidd y Pasg cafodd ei ddiberfeddu gan losgi ei berfeddion o flaen ei lygaid. Am gynllwynio i ladd y brenin mewn gwahanol rannau o'r deyrnas cafodd ei gorff ei chwarteru a'u danfon i bedair wahanol ddinas yn Lloegr a gosodwyd ei ben ar ben Tŵr Llundain.[4] Wedi lladd Dafydd ap Gruffudd defnyddiwyd crogi, diberfeddu a chwarteru fel y gosb am bob achos o deyrnfradwriaeth. Ymysg y bobl amlwg i ddioddef y gosb roedd: Maelgwyn FychanRoedd Maelgwyn Fychan ap Maelgwyn ap Rhys yn un o Arglwyddi Ceredigion. Ar ôl cwymp Tywysogaeth Cymru, "wrth weled y wlad yn cael ei gorthrymu, cododd gwŷr Ceredigion a'r cyffiniau mewn gwrthryfel yn erbyn y brenin" Edward I ym 1294. Cafodd Maelgwyn ei orchfygu, a'i gymryd i Henffordd lle cafodd ef a dau arglwydd Cymreig arall eu crogi, diberfeddu a chwarteru.[5] Syr William WallaceRoedd Syr William Wallace yn un o arwyr yr Alban yn ystod ymgais y Brenin Edward I o Loegr i orchfygu’r wlad. Wedi ei ddal a’i rhoi ar brawf ym 1305, bu'n rhaid iddo wisgo coron o ddail llawryf ar gyfer ei ddienyddiad. Cafodd ei lusgo i Smithfield, lle cafodd ei ddienyddio. Cafodd ei ben ei osod ar Bont Llundain a danfonwyd ei chwarterau i Newcastle, Caerferwig, Stirling a Perth.[6] Andrew Harclay, Iarll 1af CaerliwelyddRoedd Harclay yn un o arweinwyr byddin y brenin Edward II yn y rhyfeloedd yn erbyn yr Alban. Wedi dod yn rhwystredig efo diffyg gweithgarwch y brenin yn erbyn yr Alban penderfynodd nad oedd modd ennill y frwydr a phenderfynodd trafod heddwch efo’r Brenin Robert Bruce ar ei liwt ei hun. Gan nad oedd wedi cael caniatâd y brenin ar gyfer y trafodaethdau, cafodd ei ddedfrydu'n teyrnfradwr, heb achos llys, a’i grogi, diberfeddu a’i chwarteri ar 3 Mawrth 1323.[7] Llywelyn BrenRoedd Llywelyn Bren yn bendefig Cymreig o Senghennydd ac yn ddisgynnydd i Ifor Bach. Roedd Llywelyn wedi bod ar delerau da gyda'r arglwydd Normanaidd lleol Gilbert de Clare ond pan fu farw Gilbert cymerodd Pain de Turberville, arglwydd Coety, drosodd a dechreuodd ymddwyn yn drahaus. Cwynodd Llywelyn i Edward II, brenin Lloegr, ond heb gael boddlonrwydd. Cododd Llywelyn a'r Cymry lleol mewn gwrthryfel ym mlaenau Morgannwg. Ni pharodd y gwrthryfel am hir gan fod brenin Lloegr a rhai o arglwyddi'r Mers yn anfon nifer o filwyr i Forgannwg i'w gorchfygu. Cymerwyd Llywelyn Bren yn garcharor i Dŵr Llundain lle cafodd ei ddedfrydu i farwolaeth ac oddi yno cafodd ei ddwyn i Gaerdydd a'i ddienyddio.[8] Hugh Despenser yr IeuengafRoedd Hugh Despenser, Barwn 1af Despenser ac Arglwydd Morgannwg yn siambrlen i’r brenin Edward II ac yn ffefryn iddo. Bu rhai yn honni bod Edward a Hugh yn cael perthynas hoyw. Roedd y frenhines, Isabella yn casáu Hugh. Tra bu Isabella yn Ffrainc i drafod telerau cytundeb rhwng ei gŵr a brenin Ffrainc aeth i berthynas gyda Roger Mortimer. Penderfynodd y ddau i oresgyn Lloegr a disodli’r brenin. Pan ddechreuodd y goresgyniad bu nifer fawr o bendefigion Lloegr yn ochri gyda’r frenhines, ac aeth Dispenser a’r brenin ar ffo. Cawsant eu dal ger Castell Nedd, carcharwyd y brenin a gorfodwyd ef i ildio'r goron. Dygwyd Dispenser i lys yn Henffordd, un o'r cyhuddiadau a ddygwyd yn erbyn Despenser oedd ei fod wedi cam ddefnyddio grym y goron i lofruddio Llywelyn Bren[8], cafwyd yn euog o deyrnfradwriaeth a chafodd ei ddedfrydu i’w grogi, diberfeddu a’i chwarteri.[9] Llywelyn ap Gruffudd FychanSgweier o Gaeo, Sir Gaerfyrddin, oedd Llywelyn ap Gruffudd Fychan ac un o arweinwyr lleol Gwrthryfel Owain Glyn Dŵr yn y Deheubarth. Cynlluniodd fagl i dwyllo lluoedd Seisnig oedd yn chwilio am Owain Glyn Dŵr yn 1401. Cynorthwyodd y twyll Owain i ddianc. Fel cosb am ei weithredoedd, gorchmynodd Harri IV iddo gael ei grogi, diberfeddu a’i chwarteri tu allan i gastell Llanymddyfri ym mis Hydref o'r un flwyddyn. Halltwyd ei weddillion a'u danfon i drefi eraill yng Nghymru i'w harddangos er mwyn atal gwladgarwyr rhag ymuno â byddin Owain.[10] Diwygio’r ddeddf teyrnfradwriaethCyn 1351 roedd y diffyniad o deyrnfradwriaeth yn amwys. Roedd y cyhuddiad o frad yn cael ei selio ar y disgwyliad y byddai pob person yn deyrngar i’w sofran ar bob pwnc, a mater i’r brenin a’i barnwyr oedd pennu os oedd y teyrngarwch honno wedi ei dorri. Bu ustusiaid Edward III yn or-selog wrth ddehongu pa weithgareddau oedd i’w hystyried yn frad. Bu galwadau seneddol i egluro'r gyfraith. Mewn ymateb i’r galwadau cyflwynodd Edward Ddeddf Brad 1351. Gwnaeth y gyfraith newydd gulhau’r diffiniad o frad, nag oedd wedi bodoli o'r blaen, gan rannu'r hen drosedd ffiwdal i ddau ddosbarth, teyrnfradwriaeth a mân frad. Roedd teyrnfradwriaeth yn cael ei gyfyngu i ymdrechion i danseilio awdurdod y brenin trwy ymosod ar ei statws fel sofran a bygwth ei hawl i lywodraethu. Roedd mân frad yn gyfeirio at ladd meistr (neu arglwydd) gan ei was, gŵr gan ei wraig, neu esgob gan ei glerigwr. Byddai dynion a chafwyd yn euog o fân frad yn cael eu llusgo a'u crogi, tra byddai menywod yn cael eu llosgi am y ddwy drosedd.[11] Pasiwyd Deddf Brad newydd yn y Senedd ym 1790 wnaeth cyfnewid y gosb i grogi yn hytrach na llosgi i fenywod[12]. Pasiwyd Deddf Brad arall ym 1814 lle fyddai dynion yn cael eu llusgo a’u crogi i farwolaeth cyn darnio eu cyrff[13]. O dan Ddeddf Troseddau yn Erbyn Person 1828 chafwyd gwared â’r gwahaniaeth rhwng mân frad a llofruddiaethau eraill. Y bobl olaf i gael eu dedfrydu i’w crogi, diberfeddu a’u chwarteri oedd siartwyr Casnewydd John Frost, Zephaniah Williams a William Jones ond cafodd y gosb ei chyfnewid i drawsgludiaeth[14]
Cafwyd gwared â’r gosb yn llwyr o dan Ddeddf Fforffedu 1870 a wnaeth pennu crogi[15], ac yn y lluoedd arfog saethu, fel yr unig foddion i ddienyddio bradwr; er ni wnaeth y ddeddf cael gwared â hawl y brenin i ofyn am dorri pen troseddwr yn hytrach na’i grogi. Cafodd y gosb o dorri pen ei diddymu ym 1973. Cafodd y gosb eithaf ei diddymu am lofruddiaeth yng Nghymru a Lloegr ym 1969, ond ni chafodd ei dileu am deyrnfradwriaeth hyd 1997 er mwyn caniatáu i Brydain arwyddo'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Cymry eraill i ddioddef y gosb
Nodyn am yr enwY term Saesneg am y gosb yw hanged, drawn and quartered; sydd wedi peri peth dryswch, gan fod y llusgo tu nôl i geffyl yn digwydd cyn y crogi [28]. Mae’r Oxford English Dictionary yn dweud bod y gair drawn yn cyfeirio at y weithred o lusgo’r coluddion allan o’r corff, yn sicr mae'r drefn yn awgrymu hynny'n gryf [29]. Dyna pam defnyddir y term crogi, diberfeddu a chwarteru yn yr erthygl hon, yn hytrach na chrogi, llusgo a chwarteru. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia