Yr Alban
Gwlad yng ngogledd orllewin Ewrop yw'r Alban (hefyd Sgotland) (Gaeleg yr Alban: Alba; Sgoteg a Saesneg: Scotland). Perthynai trigolion ei deheudir i'r un grŵp ethnig a phobl Cymru am gyfnod o fileniwm, gyda'r Frythoneg Orllewinol (ac yna'r Gymraeg) yn cael ei siarad o lannau'r Fife i Fynwy.[1] Mae felly'n un o'r gwledydd Celtaidd ac yn un o wledydd Prydain, enwog am ei wisgi. Ar 18 Medi cynhaliwyd Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014 a flwyddyn yn ddiweddarach cafwyd Etholiad Cyffredinol lle gwelwyd newid syfrdanol yng nghenedlaetholdeb ei thrigolion. Sant Andreas, un o apostolion Iesu Grist, yw nawddsant yr Alban – 30 Tachwedd yw dyddiad dygwyl Sant Andreas. Roedd yr Alban yn deyrnas annibynnol tan y 18g. Ar 26 Mawrth 1707, unwyd senedd yr Alban â senedd Lloegr a ffurfiwyd teyrnas unedig Prydain Fawr. Ail-sefydlwyd senedd yr Alban yn 1999 fel senedd ddatganoledig o dan lywodraeth Llundain. Siaredir dwy iaith frodorol yn yr Alban yn ogystal â'r Saesneg – Gaeleg a Sgoteg. Mae Gaeleg yn iaith Geltaidd. Hi oedd iaith wreiddiol teyrnas yr Alban ac mae'n dal yn iaith fyw yn y gogledd orllewin. Mae Sgoteg yn perthyn i'r Saesneg, ac fe'i hystyrir yn dafodiaith Saesneg gan rai, er bod Llywodraeth yr Alban a Siarter Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop yn ei chyfrif yn iaith leiafrifol draddodiadol. Mae'n dal i gael ei siarad yn nwyrain a de'r Alban. Daearyddiaeth
O ran arwynebedd, mae'r tir mawr yn draean y gweddill o wledydd Prydain, sef 78,772 km2 (30,414 mi sgw).[2] Mae felly tua'r un maint â'r Weriniaeth Tsiec Yr unig ffin wleidyddol ydy hwnnw yn ne'r wlad gyda Lloegr, sy'n 96 km (60 mi) – rhwng aber Afon Tuedd yn y dwyrain hyd at Moryd Solway (Solway Firth).[3] Saif Iwerddon 30 km (19 mi) i'r gorllewin o benrhyn Kintyre;[4] mae Norwy 305 km (190 mi) i'r gogledd ddwyrain, ac mae Ynysoedd Ffaröe 270 km i'r gogledd. Mae'r Alban yn nodedig am ei mynyddoedd. Yn ystod y cyfnod Pleistosen, roedd y wlad wedi'i gorchuddio o dan rew ac mae olion y rhewlifau i'w gweld yn amlwg ar y tirwedd. Y prif nodwedd ddaearegol yw'r ffalt a red o Arran hyd at Stonehaven ac mae'r creigiau sydd i'r gogledd o'r ffin hwn (sef Ucheldir yr Alban) yn hen iawn ac yn perthyn i gyfnod Cambriaidd a Chyn-Gambriaidd. Mae'r iseldir yn perthyn i ddau gyfnod gwahanol; mae gogledd yr iseldir yn perthyn i'r Paleogen a'r de'n perthyn i'r cyfnod Silwraidd, sef 408.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Awdurdodau unedolDyma restr o awdurdodau unedol yr Alban a map sy'n dangos eu lleoliad yn y wlad: ![]() Afonydd![]()
Y deg prif afon yn yr Alban, yn nhrefn eu hyd, yw:
Hanes
Hanes CynnarDinistriodd y rhewlifoedd parhaus, a orchuddiai arwynebedd tir yr Alban yn llwyr, unrhyw olion o fodolaeth dynol yn ystod y cyfnod Oes Ganol y Cerrig. Credir i'r criwiau cyntaf o helwyr-gasglwyr gyrraedd yn yr Alban oddeutu 12,800 o flynyddoedd yn ôl, am fod yr iâ wedi diflannu wedi'r cyfnod rhewlifol olaf.[5][6] Dechreuodd y setlwyr cyntaf adeiladu eu tai parhaol cyntaf yn yr Albaen tua 9,500 o flynyddoedd yn ôl, a gwelwyd y pentrefi cyntaf tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl. Daw'r pentref Skara Brae ar prif dir Orkney o'r cyfnod hwn. Mae cynefinoedd Neolithig, safleoedd claddu a defodau yn gyffredin iawn yn Ynysoedd y Gogledd ac Ynysoedd y Gorllewin, lle roedd prinder o goed wedi arwain at y rhan fwyaf o adeiladau'n cael eu codi o garreg.[7] Diwylliant
Siaradwyd y Frythoneg Ddwyreiniol o lannau'r Fife i lannau'r Hafren a Chynfeirdd o ddeheudir yr Alban oedd Taliesin ac Aneirin. Arweinydd o Fanaw Gododdin yn Nyffryn y Forth oedd Cunedda yn ôl yr hanes, sef sefydlydd Teyrnas Gwynedd. Roedd cryn gyfathrach a mynd-a-dod rhwng Cymru a'r Alban hefyd yn Oes y Seintiau: mae Cyndeyrn (Saesneg: Mungo) yn dal i gael ei gofio yn Llanelwy ac yn Glasgow. Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Information related to Yr Alban |
Portal di Ensiklopedia Dunia