Rheilffordd Caint a Dwyrain Sussex
Agorwyd Rheilffordd Caint a Dwyrain Sussex, o led safonol, 12 milltir o hyd, o Tenterden i cyffordd efo Rheilffordd De Ddwyrain a Chatham yn Robertsbridge i drenau nwyddau ar 26 Mawrth 1900, ac i deithwyr ar 2 Ebrill[1], gyda'r enw Rheilffordd Dyffryn Rother. HanesAdeiladwyd y lein gan gwmni Godfrey & Siddelow o dan pŵerau'r Deddf Rheilffyrdd Ysgafn o 1896, yn caniatáu rheilffyrdd rhatach efo cyfyngiadau cyflymder; aeth y rheilffordd trwy ardal amaethyddol iawn. Defnyddiwyd cledrau Vignoles[1]. Ailenwyd y rheilffordd yn Rheilffordd Caint a Dwyrain Sussex yn 1904, yn disgwyl estyniadau i Rye, Cranbrook, Appledore, Pevensey a Maidstone[2]. Estynnwyd y lein i orsaf Tenterden (Town) ac ymlaen at cyffordd arall efo Rheilffordd De Ddwyrain a Chatham yn Headcorn ar 15 Mai 1905, a daeth y rheilffordd yn 22 milltir o hyd. Arhosodd y rheilffordd yn annibynnol ar ôl 1923 ac roedd Cyrnol Stephens yn beiriannydd, oruwchwylwr a rheolwr cyfarwyddwr y rheilffordd yn gweithio mewn swyddfa yn Tonbridge. Bu farw Stephens ym 1931. W H Austen oedd ei olynydd[2]. Caewyd y lein i deithwyr ar 2 Ionawr 1954, ac yn gyfan gwbl gan Rheilffyrdd Brydeinig ar 12 Gorffennaf 1961.[3] AtgyfodiFfurfiwyd Cymdeithas Gwarchodaeth Rheilffordd Caint a Dwyrain Sussex ym 1961. Prynwyd y lein rhwng Tenterden a Bodiam ym 1973. Ailagorwyd yn rheilffordd treftadaeth ar 3 Chwefror 1974, rhwng Tenterden a Rolvenden. Estynnwyd y lein i Ffordd Wittersham ym 1977 ar ôl ailadeiladu pont dros Sianel Newmill[2] i Northiam ym 1990 ac wedyn i Bodiam ar 2 Ebrill 2000[1]. Erbyn hyn, mae'r lein yn 10 milltir a hanner o hyd, rhwng Tenterden a Bodiam.[4] Mae cwmni arall, Rheilffordd Dyffryn Rother, yn bwriadu ailagor y lein rhwng Bodiam a Robertsbridge.[1] Cyfeiriadau
Dolenni allanolInformation related to Rheilffordd Caint a Dwyrain Sussex |
Portal di Ensiklopedia Dunia