Siop pysgod a sglodion
![]() Siop sy'n darparu prydau parod (tecawê) pysgod a sglodion yw siop pysgod a sglodion, er bod gan rai gyfleusterau eistedd megis bwyty. Gall siopau pysgod a sglodion hefyd werthu bwydydd eraill, gan gynnwys amrywiadau ar eu cynnig craidd fel selsig mewn cytew a byrgyrs, neu bwyd o fathau eraill fel bwyd Indiaidd.[1] Hanes![]() Mae plac glas ym Marchnad Tommyfield, Oldham yn Lloegr yn nodi tarddiad siopau pysgod a sglodion a'r diwydiant bwyd cyflym yn yr 1860au.[2] Yn 1928, agorodd cadwyn bwytai bwyd cyflym Harry Ramsden yn y Lloegr. Ar un diwrnod ym 1952, fe wnaeth siop pysgod a sglodion y gadwyn yn Guiseley, Gorllewin Swydd Efrog weini 10,000 o ddognau o bysgod a sglodion, gan ennill lle iddo'i hun yn y Guinness Book of Records.[3] Ceir cystadleuaeth Siop Pysgod a Sglodion gorau Prydain a sawl cystadleuaeth arall gan bod cynifer o'r bwytai i'w cael. Mae siopau sglodion o Gymru yn cystadlu yn y cystadlaethau hyn.[4] Bellach, mae mannau gwerthu pysgod a sglodion yn gwerthu tua 30% o’r holl bysgod gwyn sy’n cael eu bwyta yn y Deyrnas Unedig, ac maen nhw’n defnyddio 10% o gnwd tatws y Deyrnas Unedig.[5] Yn y Deyrnas Unedig, codir Treth ar Werth o 20% ar gludfwyd poeth, a diodydd mewn siopau cludfwyd (fel siopau sglodion) ond nid ar ategolion.[6] Amrywiaethau ac ategolion
TermauCeir termau amrywiol yn Gymraeg, gan gynnwys siop sgod a sglods, siop bysgod a sglodion (noder y treiglad), siop chips, siop tsips, neu siop jips[9] (noder y treiglad answyddogol o'r /t͡ʃ/ "ch Saesneg" i'r /j/), siop sglods a tafarn datws[10]. Mae'r term gellweirus 'sgod a sglods' yn dalfyriad o pysgod a sglodion.[11] Term cymharol diweddar yw "Siop Sgod a Sglods" yn Gymraeg a theg dweud mai "siop jips" byddai'r term mwya cyffredin ar lafar.[angen ffynhonnell] Enwyd y siop jips yn yr opera sebon, Pobol y Cwm, yn "Siop Sgod a Sglods" efallai mewn ymgais bwriadol i hyrwyddo'r neu normaleiddio'r term Cymraeg.[12] Mewn eitem ar y sianel i bobl ifanc, Hansh, bu i'r cymeriad pwped doniol, 'Gareth yr Orangutan', am brofiad gwaith mewn 'Siop Chips Hendre' yng Nghaernarfon i ddysgu sut oedd paratoi sglodion.[13] Ceir siop Sgod a Sglods yn Llan-non, Ceredigion a elwir yn syml yn Sglods. Agorwyd y siop yn 2023 a darlledwyd eitem am y lle gan siarad gyda'r staff a'r cwsmeriaid ar raglen Heno ar S4C ym mis Awst 2024.[14] Ieithoedd eraillYmhlith yr amrywiadau ar yr enw yn Saesneg ceir "Fish Bar", "Fish Shop" (yn Swydd Efrog), ac ati. Yn y rhan fwyaf o'r Deyrnas Unedig gan gynnwys Gogledd Iwerddon, fe'u gelwir ar lafar yn chippy neu'n fishy, tra yng Ngweriniaeth Iwerddon ac ardal Aberdeen, fe'u gelwir yn fwy cyffredin yn chippers. Gweler hefydDolenni allanol
Cyfeiriadau
Information related to Siop pysgod a sglodion |
Portal di Ensiklopedia Dunia