Sglodion
Mae sglodion gelwir hefyd ar lafar wrth yr enw Saesneg gyda'r sillafiad Saesneg "chips" a hefyd yn yr orgraff Gymraeg tsips (er, anfynych gwelir hynny bellach) yn datws, wedi'u torri, yna'u ffrio wrth orchuddio'n llawn â rhyw fath o fraster neu olew. Yn Saesneg fe'i gelwir yn chips neu'n French fries - er tueddir meddwl am French fries fel sglodion tenheuach. Maent yn cael eu paratoi trwy dorri tatws yn stribedi gwastad, eu sychu, a'u ffrio. Fel arfer cânt eu ffrio mewn padell ffrio ddofn. Yn ystod y broses o wneud, cânt eu torri ymlaen llaw, eu blansio, a defnyddir tatws russet wedi'u rhewi yn aml i'w gwneud. Gellir pobi sglodion mewn popty hefyd er mwyn defnyddio llai o fraster.[1] Caiff sglodion eu gweini'n boeth, naill ai'n feddal neu'n grensiog, ac yn gyffredinol cânt eu bwyta ar gyfer cinio, swper, neu fel byrbryd. Maent yn ymddangos yn gyffredin ar fwydlenni bwytai, bwytai bwyd cyflym, tafarndai a bariau, ac, wrth reswm, Siop Sgod a Sglods Bydd pobl yn aml yn ychwanegu halen arnynt, ac weithiau'n eu trochi mewn sos coch, finegr, mayonnaise, sôs cyrri, neu gydfwydydd eraill. Weithiau gorchuddir y sglodion â bwyd arall megis yn Quebec, poutine (caws ceulaidd a grefi) a/neu chili con carne. Weithiau gwneir sglodion o datws melys, yn lle tatws. Pan gaiff ei bobi mewn popty, ychydig o olew neu ddim olew, yn cael ei ddefnyddio. ParatoiMae sglodion yn aml yn cael eu ffrio mewn ffrïwr dwfn, sy'n eu boddi mewn braster neu olew planhigion.[2] Mae ffriwyr gwactod (vacuum frier) yn ffordd arall o goginio heb gymaint o olew tra'n cadw gwead a lliw y sglodyn yn dda.[3] Paratoir y tatws trwy eu torri'n stribedi gwastad yn gyntaf. Nid oes rhaid plicio croen y dysen. Gellir wedyn rhoi'r tatws mewn dŵr oer i dynnu'r startsh allan o'r sglodion. Unwaith y cânt eu tynnu allan o'r dŵr oer, cânt eu sychu.[4] Yna gellir eu ffrio yn y dechneg dau gam. Mae'r rhan fwyaf o gogyddion yn meddwl mai'r dechneg dau gam neu dau drochiad ("two bath") yw'r gorau er mwyn eu gwneud yn well wedi'u ffrio.[4][5] Efallai y bydd gan datws sy'n cael eu tynnu'n ffres o'r ddaear ormod o ddŵr sy'n gwneud y sglodion yn feddal ac yn wlyb. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dewis tatws nad ydynt wedi'u defnyddio ers tro. Techneg dau drochiadYn y dechneg dau gam neu ddau drochiad, y broses gyntaf i'w ffrio, a elwir weithiau'n "blanching", mewn braster poeth, gyda'r tymheredd tua 160°C.[4] Yna maen nhw'n cael eu ffrio am ychydig yn hirach, gyda'r tymheredd uwch, tua 190 °C fel eu bod nhw'n grensiog. Ar ôl hynny, fe'u gosodir mewn colandr neu ar frethyn draenio i hidlo peth o'r braster, ac yna cânt eu bwyta. Mae'r union amser i'r ddwy broses eu ffrio yn dibynnu ar faint y sglodon. Er enghraifft, ar gyfer stribedi 2-3 mm, mae'r broses gyntaf yn cymryd tua 3 munud, ac mae'r ail broses yn cymryd eiliadau yn unig. Ers y 1960au, mae'r rhan fwyaf o sglodion wedi'u gwneud o datws Russet wedi'u rhewi, sydd wedi'u glanhau'n broffesiynol neu wedi aersychu'n broffesiynol.[6] Y braster arferol a ddefnyddir ar gyfer gwneud sglodion yw olew llysiau. Yn y gorffennol, argymhellwyd siwet wedi'i wneud o gig eidion fel braster i'w gwneud, oherwydd credwyd y byddent yn blasu'n well. Defnyddiodd cadwyn fwyd McDonald's gymysgedd o 93% o wêr eidion a 7% o olew had cotwm tan 1990, pan newidiwyd i olew llysiau gyda chyflasyn cig eidion. Roedd braster ceffyl yn cael ei ddefnyddio'n aml fel braster i wneud sglodion yng ngogledd Ffrainc a Gwlad Belg, tan yn ddiweddar. Mae rhai cogyddion yn dal i'w ddefnyddio. HanesNid oes unrhyw sicrwydd ynghylch amser a lleoliad dyfeisio sglodion. Yn ôl ffynonellau amrywiol, byddai sglodion wedi tarddu o ddiwedd yr 17g. Yn ôl Encyclopedie van de fried (Gwyddoniadur y Sglodion), adroddir i darnau o datws wedi'u ffrio cael eu paratoi am y tro cyntaf ym Mhenrhyn Iberia. Dywedir i Teresa o Avila ffrio'r tatws wedi'u sleisio mewn sosban gydag olew olewydd berwedig a hynny mewn lleiandy.[7] Anghydfod Ffrainc Gwlad BelgMae anghydfod parhaus rhwng y Belgiaid a'r Ffrancwyr ynghylch ble a phwy ddyfeisiwyd sglodion.[8] Mae'r hanesydd bwyd o Wlad Belg, Pierre Leclercq, wedi olrhain hanes y ffrïo ac yn honni "ei bod yn amlwg bod sglodion o darddiad Ffrengig".[9] Serch hynny, mae'r anghydfod dros bwy ddyfeisiodd y sglodion yn parhau. Ceir y Frietmuseum, yr Amgueddfa Sglodion, yn ninas Brugge yn Fflandrys yn arwydd o bwysigrwydd eiconig y bwyd yma i hunaniaeth Gwlad Belg. Brolia'r amgueddfa, "Ynghyd â siocled blasus Gwlad Belg, sglodion Gwlad Belg yn sicr yw'r cynnyrch sy'n dangos fwyaf o ffordd o fyw da pobl Gwlad Belg. Dros y blynyddoedd, mae sglodion wedi dod yn gynnyrch sydd wedi ymledu ledled y byd, er mawr lawenydd mawr a bach, ym mron pob gwlad, a gallwn felly ymfalchïo yn y ffaith bod sglodion yn gynnyrch a anwyd yng Ngwlad Belg."[10] Cymru a SglodionMae'r gair Cymraeg sglodion yn gyfieithiad llythrennol o'r gair Saesneg chips ac, fel chips, mae'n cyfeirion'n wreiddiol at "naddion pren, carreg, &c., tafelli, siafins, creifion". Gan efelychu'r gair Saesneg daeth y gair yma hefyd i ddisgrifio "darnau hirfain o daten wedi eu ffrio’n ddwfn mewn saim" rhywbryd yn yr 20g.[11] Daw'r gair sglodion ei hun o'r Frythoneg asglod, sydd ei hun yn fenthyciad o'r Lladin gwreiddiol assula daeth wedyn yn y Lladin Canol i'w ynganu fel "ascloedenn" ac a ddaeth yn ei dro mewn Lladin Llafar ac i "ascla".[12] Llenyddiaeth a diwylliant boblogaidd
Gweler hefydDolenni allannol
Cyfeiriadau
Information related to Sglodion |
Portal di Ensiklopedia Dunia