Kensington a Chelsea (Bwrdeistref Frenhinol)
Bwrdeistref yn Llundain Fwyaf, Lloegr, yw Bwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea neu Kensington a Chelsea (Saesneg: Royal Borough of Kensington and Chelsea; Anffurfiol: "RBK" neu "RBK and C"). Mae'n rhan o Lundain Fewnol. Fe'i lleolir ar lan ogleddol Afon Tafwys; mae'n ffinio â Hammersmith a Fulham i'r gorllewin, Brent i'r gogledd, a Westminster i'r dwyrain; saif gyferbyn â Wandsworth ar lan ddeheuol yr afon. Ardal ddinesig ydwy, ac yn ôl Cyfrifiad 2001 dyma awdurdod lleol mwyaf dwys ei phoblogaeth yn y Deyrnas Unedig gyda 13,244 person i bob cilometr sgwâr. Mae hefyd yn un o dair bwrdeistref yn Llundain Fwyaf a ddynodir yn "Fwrdeistref Frenhinol" (Saesneg: Royal Borough). Yr eraill yw Bwrdeistref Frenhinol Kingston upon Thames a Bwrdeistref Frenhinol Greenwich. Lleolir yn union i'r gorllewin o Ddinas Llundain ac i'r dwyrain o fwrdeistref Hammersmith a Fulham. Ynddi mae siop adrannol Harrods; carnifal mwyaf Ewrop, sef Carnifal Notting Hill; a nifer o lysgenhadaethau yn ardaloedd Belgravia a Knightsbridge. Mae hefyd yn gartref i rai o ardaloedd preswyl drutaf y byd. ArdaloeddMae'r bwrdeistref yn cynnwys yr ardaloedd canlynol:
Atyniadau a sefydliadau nodedigMae nifer o atyniadau a sefydliadau nodedig o fewn y fwrdeistref:
Information related to Kensington a Chelsea (Bwrdeistref Frenhinol) |
Portal di Ensiklopedia Dunia