Baner Trinidad a Thobago![]() ![]() ![]() Mabwysiadwyd baner Trinidad a Thobago ddiwrnod ei hannibyniaeth o'r Deyrnas Unedig ar 31 Awst 1962. Cynlluniwyd y faner gan Carlisle Chang (1921-2001), [1][2] a dewiswyd y faner gan y pwyllgor annibyniaeth yn 1962. Mae'r coch, du a gwyn yn symboli tân (yr haul, yn cynrychioli dewrder), y ddaear (yn cynrychioli ymroddiad) a dŵr (sy'n cynrychioli purdeb a chydraddoldeb).[3] DyluniadMae baner Trinidad a Thobago yn faes coch gyda band croeslin du. Ceir ffin gwyn ar naill ochr i'r croeslin ddu. Y disgyrfiad herodraethol yw blazon, Gules, bend Sable fimbriated Ariann. Lled y streipiau gwyn yw 1⁄30 o hyd y faner a lled y streipen ddu yw 2⁄15. Mae cyfanswm lled y tair stribed gyda'i gilydd felly 1⁄5 o'r hyd.[4] Baneri eraillY faner morol (Civil Engisn) yw'r faner genedlaethol ond i'r cymuseredd 1: 2. Baner y llynges (a ddefnyddir hefyd gan longiau Gwylwyr y Glannau) yw dyluniad ar sail y faner White Ensign Brydeinig gyda'r faner genedlaethol yn y canton.
Baner Cyfnod Trefedigaethol o dan PrydainCyn annibyniaeth o'r Deyrnas Unedig ym mis Awst 1962, defnyddiodd Trinidad a Thobago y Blue Ensign Brydeinig wedi ei ddifrodi gyda bathodyn yn dangos llong yn cyrraedd o flaen mynydd. Defnyddiwyd y faner Red Ensign ar gyfer masnach morwrol.
Cyfeiriadau
Information related to Baner Trinidad a Thobago |
Portal di Ensiklopedia Dunia