Baner yr Orsedd
Baner a ddefnyddir gan Orsedd y Beirdd yn ei seremonïau yw Baner yr Orsedd. Mae'n seiliedig ar gynllun a greuwyd gan T. H. Thomas ar gyfer Gorsedd Llandudno yn 1896. HanesYn ôl Nennius, roedd y ddraig goch yn symbol milwrol ym Mhrydain cyn 800 OC. Mae'r gerdd "Gorchan Maelderw" gan Aneirin yn dyddio o tua 600 OC ac yn cyfeirio at "rud dhreic" a all ei chyfieithu fel "draig goch" a "pharaon" yn cyfeirio at hen enw Dinas Emrys sydd i'w weld yn Nhrioedd Ynys Prydain a Lludd a Llefelys. Mae'r gerdd yn profi bod draig goch genedlaethol y Brythoniaid yn gyfredol mor gynnar â 600AD (dwy ganrif cyn cael ei hysgrifennu yn Lladin gan Nennius). Mae'n bosib mai dyma'r cyfeiriad cyntaf at ddraig goch yn llenyddiaeth Cymru yn y 6g. Mae'r gair "pharaon" yn enw hynafol ar Ddinas Emrys, ac mae'r cyfeiriad hon dwy ganrif cyn cofnod Nennius yn Historia Brittonum o stori Lludd a Llefelys; arwydd posib o darddiad hyd yn oed hŷn na hyn.[1] Yn y gerdd, fe sonir am y ddraig goch yn hedfan yn yr awel yn ystod Brwydr Catraeth yn ogystal a'r haul a'r Duw "Hu". Ysgrifenwyd y gerdd gan Taliesin ond mae'n ymddangos yn y Llyfr Aneirin. Crewyd y faner gan "Archimagus" neu archdderwydd ar gyfer Maelderw, arweinydd y lluoedd brodorol ac er mwyn amddiffyn y Brythoniaid.[2][3] Mae'r faner hon yn cynnwys delwedd o'r arweinydd, yr haul a'r ddraig goch. Roedd y derwyddon Gwyddelig hefyd yn paratoi baneri'r haul i'w harweinwyr, sef y faner "Dal-greine" gyda'r haul arno.[4] ![]() Gwelir y farddoniaeth gwreiddiol o Gwarchan Maeldderw (a chyfieithiad Cymraeg o'r cyfieithiad Saesneg):[5][2] Molawt rin rymidhin rymenon. Gweler hefydCyfeiriadau
Information related to Baner yr Orsedd |
Portal di Ensiklopedia Dunia