Banc Gogledd a Deheudir Cymru
Banc Cymreig a sefydlwyd yn 1836 oedd Banc Gogledd a Deheudir Cymru (Saesneg: The North and South Wales Bank), y pwysicaf o'r banciau annibynnol niferus a sefydlid yng Nghymru yn y 18g a'r 19g. Ffurfiwyd y banc a elwyd hefyd yn Banc Cymru ac yn Fanc Gogledd a De Cymru) yn Lerpwl ym 1836 ac fe'i lleolwyd yn wreiddiol mewn adeilad yn James Street, Lerpwl.[1] Yr adeg honno roedd miloedd o Gymry'n byw yn y ddinas. Yn ei anterth roedd dros cant o ganghennau, ac mae sawl adeilad ar strydoedd mawr Cymru yn dal i ddwyn meini ag enw'r banc arno. Cyfyngodd Deddf Siarter Banc 1844 ar hawliau banciau i gyhoeddi eu harian eu hunain, a dim ond banciau a oedd yn bathu arian cyn gweithredu'r Ddeddf a allai barhau i wneud hynny. Byddai pob banc yn colli'r hawl i argraffu arian pan fyddant yn uno neu drwy gael eu meddiannu gan sefydliad arall. Tynnwyd y papurau banc olaf o Gymru ym 1908 gan Fanc Gogledd a De Cymru, pan gafodd eu cymryd drosodd gan Fanc y Midland. Ar ôl hynny dim ond nodiadau a gyhoeddwyd gan Fanc Lloegr y gallai Cymru eu defnyddio.[2] Dim ond saith banc sy'n dal yr hawliau i argraffu papurau arian cyfred eu hunain, pob un ohonynt yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Rhaid i fenthycwyr sy'n argraffu'r papurau hyn ddal asedau sy'n gyfwerth â swm yr arian sydd ganddynt mewn cylchrediad.[2] Dywedodd Jonathan Edwards (llefarydd Trysorlys Plaid Cymru), fod y DU yn gwadu'r cyfle i Gymru gael ei thrin fel cenedl gyfartal. GweledigaethCyhoeddwyd prosbectws yn cynnig cyfranddaliadau o £20, gyda £10 wedi'i dalu, ac yn galw sylw at anghenion:
Roedd y banc yn rhagweld rhwydwaith o ganghenau lleol ledled Cymru, er gwaethaf yr heriau o ran trafnidiaeth a chyfathrebu, gan nad oedd unrhyw reilffyrdd yng Nghymru ar y pryd.[1] Pwyllgor dros dro a dirprwyaethauPenododd pwyllgor dros dro o fasnachwyr, gweithgynhyrchwyr a dynion busnes Lerpwl ddirprwyaeth i ymweld â threfi Cymru a Llundain ar gyfer cyfweliadau ag arweinwyr, uchelwyr a bonheddwyr ac Aelodau Seneddol Cymru. Arfogwyd y bobl hyn gyda'r pwer i brynnu banciau lleol ac adeiladau ac i benodi staff (clercod) ac i agor banciau.[1] Ymddiriedolwyr cyntafPenodwyd Syr Love Parry Price Parry, Ambrose Lace a John Dean Case yn ymddiriedolwyr y banc. Roedd ceisiadau am gyfranddaliadau yn fwy na'r hyn a ragwelwyd a chodwyd addewidion o gyfalaf o £600,000 mewn cyfranddaliadau o £10 gyda £ 7 10s wedi'i dalu.[1] Sefydlu canghennau drwy GymruAr ôl ffurfio, dechreuodd y banc gymryd nifer o fanciau preifat drosodd yn y Gogledd ac er mwyn ehangu i'r De, anfonwyd dirprwyaeth yno i asesu'r potensial ar gyfer canghennau newydd.[1] Yn ystod y flwyddyn gyntaf roedd y banc wedi sefydlu 13 cangen a 10 is-gangen, a'r un bellaf 100 milltir o Lerpwl.[1] Pan aeth Banc Gogledd a Chanol Lloegr (Northern & Central Bank of England) i'r wal, prynnodd Banc Cymru wyth ohonyn nhw: wyth allan o 40.[1] Canghennau cyntaf30 Mai 1836: Trefesgob, Swydd Amwythig, y Drenewydd, Powys a'r Trallwng 8 Mehefin 1836: Llanfyllin a Chroesoswallt 27 Mehefin 1836: Rhuthun 1 Gorffennaf 1836: Llanrwst 4 Gorffennaf 1836 Caernarfon a Chaer 9 Awst 1836: Wyddgrug, Sir y Fflint 19 Medi 1836 Wrecsam Daeth yr un ar ddeg o ganghennau hyn yn rhan o Fanc y Midland yn 1908, gan helpu i sefydlu eu rhwydwaith canghennau yng Nghymru.[1] Cymerodd y banc drosodd fanc Aberystwyth o'r enw Bank y Llong ar 15 Awst 1836 ac roedd ganddo gangen yn New Street, Aberystwyth rhwng tua 1864 a 1885, yna symudodd y banc i adeilad ar ochr ddeheuol Great Darkgate Street ac wedi hynny bwriadwyd symud i adeilad newydd ar draws y stryd, ond tra roedd y gangen newydd yn cael ei hadeiladu fe'i meddianwyd gan Fanc y Midland.[3][4][5][6] Roedd cangen Wrecsam yn yr adeilad lle mae 43 Stryd Fawr bellach yn sefyll ac ym 1861 symudodd i 29 Stryd Fawr. Agorwyd y gangen yn 14 Stryd Fawr ym 1905, a daeth yn dafarn Wetherspoons ym 1999.[7][8] Agorwyd y gangen yn y Rhyl yn Chwefror 1856 yn hen Bodfor House ar gornel Stryd Bodfor a Stryd Wellington. Ym 1880 symudodd y banc i adeilad yn Neuadd y Dref lle cyflogwyd 10 clerc a bu'r banc yma nes cwblhau adeilad newydd ym 1900, wedi'i wneud o gerrig o Dalacre a briciau coch Rhiwabon.[9] Sefydlwyd cangen Llangollen ym 1864. Codwyd yr adeilad banc cain gan Morris Roberts, a oedd yn gyfrifol am sawl adeilad yn y dref gan gynnwys Neuadd y Dref a'r Ysgol Genedlaethol. Caewyd y banc hwn ar 7 Chwefror 2014.[10] Yng Nghaer, gelwid y gangen yn Grosvenor Club and North and South Wales Bank. Agorwyd nifer o ganghennau yng Nglannau Mersi ac o'r 1860au ymlaen sefydlodd ganghennau mewn maestrefi newydd a thrwy Cilgwri.[1] Roedd gan y canghennau hyn lawer o gwsmeriaid diwydiannol, yn enwedig ym myd masnachu a llongau a oedd yn cydbwyso busnes amaethyddol y canghennau yn y Gogledd a Swydd Gaer a Swydd Amwythig yn lloegr.[1] Erbyn Tachwedd 1908, roedd gan y banc gyfanswm o 84 o ganghennau a 24 o is-ganghennau.[1] Enw daO dan reolaeth George Rae o Gilgwri rhoddwyd blaenoriaeth uchel i ddethol a hyfforddi staff ac effeithlonrwydd systemau cadw llyfrau o gymharu â banciau gwledig eraill.[1] Defnyddiai nifer fawr o reolwyr a chlercod y Gymraeg yn naturiol ac yn ddyddiol. Ymhlith graddedigion y banc roedd bancwyr o fri fel R Meredith Jones, rheolwr Lerpwl rhwng 1868 a 1894, a Rowland Hughes, rheolwr cyffredinol rhwng 1897 a 1908 ac roedd gan y banc lawer o'i enw da oherwydd ansawdd ei staff. a'i ddulliau teg.[1] Yn 1901 cymerodd drosodd Fanc Leyland a Bullin (sefydlwyd 1807). UnoYn Nhachwedd 1908 unodd y banc â Banc y Midland. Dechreuwyd yr uno gan Syr Edward Holden, Barwnig 1af a oedd yn gadeirydd Banc Midland a'i reolwr gyfarwyddwr (prif swyddog gweithredol). Roedd yn ffigwr blaenllaw ym maes uno banciau'r cyfnod.[1][11] Er bod Banc Cymru wedi bod yn broffidiol rhwng 1868 a 1895, gyda difidendau o 17'/2%, dirywiodd y busnes wedi hynny. Yn benodol, arweiniodd cylch busnes y diwydiant cotwm a Panig 1907 at y penderfyniad i uno â Banc y Midland. Ar adeg yr uno roedd cyfalaf talu i mewn y banc yn £ 750,000, cronfeydd wrth gefn y banc yn £ 512,000, yr adneuon yn £11 miliwn a thaliadau ymlaen llaw a biliau yn £7'/2 filiwn.[1] Diwedd arian cyfredol CymruYn y 19g, cyhoeddodd y mwyafrif o fanciau preifat eu papurau banc eu hunain. Cyfyngodd Deddf Siarter Banc 1844 ar yr arfer hwn a dim ond banciau a gyhoeddodd bapurau cyn gweithredu'r Ddeddf a allai wneud hynny. Byddai pob banc yn colli'r hawl i argraffu arian pan fyddant yn uno neu drwy gael eu meddiannu gan sefydliad arall. Tynnwyd y papurau banc olaf o Gymru ym 1908 gan Fanc Gogledd a De Cymru, pan gafodd eu cymryd drosodd gan Fanc y Midland. Ar ôl hynny dim ond nodiadau a gyhoeddwyd gan Fanc Lloegr y gallai Cymru eu defnyddio.[2] Dim ond saith banc sy'n dal yr hawliau i argraffu papurau arian cyfred eu hunain, pob un ohonynt yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Rhaid i fenthycwyr sy'n argraffu'r papurau hyn ddal asedau sy'n gyfwerth â swm yr arian sydd ganddynt mewn cylchrediad.[2] Mae Plaid Cymru wedi dweud y dylid rhoi’r pwerau yn ôl i Gymru greu ei harian ei hun, er mwyn rhoi statws cyfartal i’r genedl â’r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Dywedodd Jonathan Edwards (llefarydd Trysorlys Plaid Cymru), fod y DU yn gwadu'r cyfle i Gymru gael ei thrin fel cenedl gyfartal o fewn y DU. Dywedodd y byddai cyhoeddi arian papur Cymru “yn ein rhoi ar sail gyfartal â’r cenhedloedd eraill”. Byddai'r cynnig yn gweld banc preifat newydd yn cael y pŵer i fathu ei harian ei hun am y tro cyntaf mewn mwy na 170 o flynyddoedd. Wrth siarad â'r Financial Times, dywedodd:
Rhai o'r banciau eraill yng Nghymru
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
Information related to Banc Gogledd a Deheudir Cymru |
Portal di Ensiklopedia Dunia