Etholaethau a Rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru
Defnyddir etholaethau a rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru i ethol Aelodau o'r Senedd (AS), a'u defnyddir mewn rhyw ffurf ers etholiad cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. Cyflwynwyd ffiniau newydd ar gyfer yr etholiad yn 2007 ac ar hyn o bryd cynhwysant bedwar deg etholaeth a phum rhanbarth. Y pum rhanbarth etholiadol yw: Canol De Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Dwyrain De Cymru, Gogledd Cymru, a Gorllewin De Cymru, gyda'r pedwar deg etholaeth a restrir isod.[1] Digwyddodd yr etholiad diwethaf yn 2021. Grwpir etholaethau'r Senedd i mewn i ranbarthau etholiadol sy'n cynnwys rhwng saith a naw etholaeth. Defnyddir system aelodau ychwanegol i ethol pedwar Aelod ychwanegol o'r Senedd o bob rhanbarth, ar ben yr ASau a etholir gan yr etholaethau. Seiliwyd ffiniau'r rhanbarthau etholiadol ar etholaethau Senedd Ewrop yng Nghymru cyn 1999. Ym mhob etholiad cyffredinol o'r Senedd, mae gan pob etholydd ddwy bleidlais, un bleidlais etholaethol ac un bleidlais restr pleidiau ranbarthol. Mae pob etholaeth yn ethol un Aelod trwy'r system 'cyntaf i'r felin', a llenwir seddi ychwanegol y Senedd o'r rhestrau pleidiau caeedig, o dan ddull D'Hondt, gan ystyried canlyniadau'r etholaethau, i greu rhywfaint o gynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer pob rhanbarth. Ar y cyfan, etholir y chwe deg Aelod o'r Senedd o'r pedwar deg etholaeth a'r pum rhanbarth etholiadol, gan greu Senedd o bedwar deg AS etholaethol a dau ddeg AS ychwanegol. Cynrychiolir pob etholwr gan un aelod etholaethol a phedwar aelod rhanbarthol. HanesSefydluAr ôl y refferendwm ar ddatganoli i Gymru yn 1997, sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i etholaethau a'i rhanbarthau etholiadol gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Dywedodd adran 2 o'r ddeddf taw'r etholaethau ar gyfer y Cynulliad fu'r un etholaethau a ddefnyddir ar gyfer etholiadau i Senedd y Deyrnas Unedig.[2] Creodd yr un ddeddf y pum rhanbarth a ddefnyddiai'r un ffiniau â phump etholaeth Senedd Ewrop yng Nghymru a nodwyd gan Orchymyn Etholaethau Senedd Ewrop (Cymru) 1994.[3] Defnyddir yr un rhanbarthau etholiadol o hyd, er y dilëwyd y pump etholaeth a'u disodli gan etholaeth Cymru-gyfan, ac ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Ond digwyddodd newidiadau bach i ffiniau'r rhanbarthau oherwydd newidiadau i'r etholaethau. Newid ffiniauYn 2006, gweithredwyd Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Atgyfnerthodd y ddeddf y cysylltiad rhwng etholaethau'r Cynulliad ac etholaethau seneddol, a bod yna bum rhanbarthau etholiadol. Yn dilyn y pumed arolwg cyfnodol o etholaethau San Steffan, diffiniwyd y ffiniau newydd ar gyfer yr etholaethau a'r rhanbarthau etholiadol gan Orchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) 2006.[4] Dileodd y gorchymyn dair etholaeth (Caernarfon, Conwy, a Meirionydd Nant Conwy), a chrëwyd tair etholaeth newydd i'w disodli (Aberconwy, Arfon, a Dwyfor Meirionydd). Cafodd naw etholaeth addasiadau "sylweddol" i'w ffiniau gan gynnwys y trosglwyddiad o fwy na 3,000 o drigolion rhwng yr etholaethau. Cafodd wyth etholaeth arall addasiadau i'w ffiniau gan arwain at y trosglwyddiad o lai na 3,000 o drigolion rhwng pob etholaeth, a chafodd pedair arall fân addasiadau a arweiniodd at drosglwyddiadau bach o drigolion rhwng etholaethau. Ni chafodd gweddill yr un deg chwech o etholaethau unrhyw addasiadau i'w henwau neu eu ffiniau. Croesodd y tair etholaeth newydd y ffiniau rhwng y rhanbarthau etholiadol o Ganolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru, gan arwain at addasiadau i ffiniau'r ddau ranbarth etholiadol, yn ogystal â mân addasiadau i'r etholaeth o Faldwyn a arweiniodd at fân addasiadau i ffiniau rhanbarthol hefyd. Yn Ne Cymru, newidiwyd ffiniau'r rhanbarthau etholiadol, Gorllewin De Cymru a Chanol De Cymru, oherwydd y newidiadau i ffiniau'r etholaethau Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg. Daeth y newidiadau o ffiniau'r etholaethau a'r rhanbarthau etholiadol i rym ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007. Defnyddiwyd yr un ffiniau yn etholiad cyffredinol y DU yn 2010, felly rhwng 2007 a 2010 roedd ffiniau gwahanol gan etholaethau Cynulliad Cymru a Senedd y DU. Datgysylltu o etholaethau Senedd y DUMae Adran 13(1) Deddf System Pleidleisio ac Etholaethau Seneddol 2011 yn dweud:[5]
Mae hyn yn manylu na weithredir ar etholaethau'r Cynulliad (y Senedd) unrhyw newidiadau pellach i etholaethau seneddol yng Nghymru a nodwyd yn y ddeddf (yn enwedig y lleihad arfaethedig o'r etholaethau i 30). Mewn sesiwn o Dŷ'r Cyffredin lle yr holwyd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, Cheryl Gillan am wrthwynebiad y blaid Lafur i ddatgysylltu'r ddwy etholiad, ymatebodd:[6]
AilenwiAr 6 Mai 2020, daeth Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 i rym, gan ailenwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Senedd Cymru, ac, yn ei thro, ailenwi'r etholaethau a'r rhanbarthau etholiadol. Ehangu a diwygio'r Senedd
Ar 8 Mai 2024, pasiwyd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a gynydda faint y Senedd o 60 aelod i 96 aelod.[7][8] Bydd ASau'n cael eu hethol mewn 16 etholaeth a grëir drwy baru'r 32 etholaeth seneddol newydd a ddefnyddir yn etholiadau Senedd y DU ers 2024. Etholir chwe aelod ymhob etholaeth gan ddefnyddio rhestrau caeedig drwy'r dull D'Hondt fel yr etholid ASau rhanbarthol yn yr hen system. Bydd y system newydd yn cael ei defnyddio o etholiad 2026 ymlaen. Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru a fydd yn paru'r etholaethau ar gyfer etholiad 2026 ac wedyn byddant yn cynnal adolygiadau cyfnodol o etholaethau'r Senedd yn annibynnol ar etholaethau seneddol. Etholaethau arfaethedig (i'w defnyddio yn 2026)Oherwydd y pasiwyd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), defnyddir 16 o etholaethau chwe-aelod o etholiad nesaf y Senedd (trefnir ar gyfer 2026) ymlaen, gan ddisodli'r 40 o etholaethau a phum rhanbarth. Yn yr etholaeth cyntaf, defnyddir etholaethau a grëir drwy baru dau o'r 32 o etholaethau Senedd y DU, a ddefnyddiwyd ers etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig 2024, sydd yn gyffiniol. Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wrthi'n cynnal "Arolwg 2026" o ffiniau'r Senedd.[9] Cynigion cychwynnol (Medi 2024)![]() Datgelodd y Comisiwn ei gynigion cychwynnol ar gyfer yr etholaethau newydd yn Medi 2024.[9]
Cynigion diwygiedig (Rhagfyr 2024)![]() Ym mis medi 2024, cyhoeddodd y Comiswn ei gynigion diwygiedig yn dilyn ymgynghoriad. Roedd dau newidiau sylweddol sef paru etholaethau Caerdydd yn wahanol,[10] a chyhoeddi y bydd gan bob un etholaeth (heblaw am bedair) enwau uniaith Cymraeg. Cafodd y penderfyniad dros enwau uniaith Cymraeg gefnogaeth gan Gymdeithas yr Iaith, ond galwodd y Gymdeithas am dynnu'r pedwar o enwau Saesneg sydd ar ôl hefyd. Awgrymasant ymhellach dorri'r cyfeiriadau cwmpawd o'r enwau os bydd angen er mwyn i'r enwau Cymraeg fod yn addas yn Saesneg. Tra y dywedodd Andrew RT Davies, cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, fod y penderfyniad yn "difreinio siaradwyr uniaith Saesneg", a galwodd i etholaethau sy'n cwmpasu ardaloedd sydd â mwyfrifoedd Saesneg gael enwau Saesneg hefyd. Disgwylir i'r cynigion terfynol ar gyfer yr etholaethau gael eu penderfynu ym mis Mawrth 2025, yn dilyn ymynghoriad terfynol.[11][12] Etholaethau a rhanbarthau (2007-presennol)![]() Newidiwyd ffiniau'r etholaethau a'r rhanbarthau drwy orchymyn ar gyfer yr etholiad yn 2007. Dileodd y gorchymyn dair etholaeth (Caernarfon, Conwy, a Meirionydd Nant Conwy), a chrëwyd tair etholaeth newydd i'w disodli (Aberconwy, Arfon, a Dwyfor Meirionydd). Roedd rhai newidiadau i ffiniau etholaethau eraill, a newidiwyd ffiniau'r rhanbarthau i adlewyrchu'r newidiadau yn yr etholaethau. Defnyddid yr etholaethau hyn ar gyfer etholiadau Senedd y DU rhwng 2010 a 2024, a thorodd y cysylltiad deddfwriaethol rhwng y ddwy fath o etholaethau yn 2011 gan ganiatáu i ffiniau etholaethau Senedd y DU a Senedd Cymru fod yn wahanol. Bydd etholaethau Senedd Cymru yn defnyddio system newydd gydag etholaethau chwe aelod yn unig o 2026 ymlaen.
Cyn etholaethau a chyn ranbarthau1999-2007![]() Rhwng yr etholiad cyntaf yn 1999 ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y'i galwyd ar y pryd, a'r etholiad yn 2007, defnyddiwyd yr etholiaethau a'r rhanbarthau isod. Yr etholaethau oedd yr un etholaethau a ddyfnyddid gan Senedd y DU, ac roedd gan y rhanbarthau yr un ffiniau ag etholaethau Senedd Ewrop yng Nhghymru.
Cyfeiriadau
Information related to Etholaethau a Rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru |
Portal di Ensiklopedia Dunia