Mae etholaeth Caerfyrddin yn ethol aelod i senedd San Steffan.
Cafodd ei greu ar gyfer Etholiad cyffredinol 1918. Roedd yr etholaeth yn cynnwys bron y cyfan o'r hen Sir Gaerfyrddin ac eithrio'r rhannau diwydiannol o'r sir o amgylch tref Llanelli. Mae'r etholaeth yn nodedig am yr isetholiad a gynhaliwyd yno ym 1966, lle etholwyd Gwynfor Evans yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru, ac am etholiad cyffredinol Chwefror 1974 pa bryd fethodd Evans gael ei ailethol o ddim ond 3 pleidlais. Mae pob ward o fewn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd yr etholaeth ei ddileu yn ei ffurf wreiddiol ar gyfer etholiad cyffredinol 1997, ond fe'i hailsefydlwyd ar gyfer etholiad cyffredinol 2024.
Ym 1941 cafodd Hopkin ei benodi yn ynad cyflogedig yn Llundain gan sefyll i lawr o'r Senedd. O dan drefniadaeth rhwng y tair plaid fawr i beidio cystadlu isetholiadau yn erbyn ei gilydd yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd cafodd Goronwy Moelwyn Hughes ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Lafur.