Canolbarth a Gorllewin Cymru (etholaeth Senedd Ewrop)
Roedd Canolbarth a Gorllewin Cymru yn etholaeth Senedd Ewrop a oedd yn cwmpasu Canol a De Orllewin Cymru. HanesCyn mabwysiadu ffurf ar gynrychiolaeth gyfrannol ym 1999, defnyddiodd y Deyrnas Unedig dull "Y Cyntaf i'r Felin" ar gyfer etholiadau Ewropeaidd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Roedd yr etholaethau Senedd Ewropeaidd a ddefnyddid o dan y system honno yn llai na'r etholaethau cyfredol ac yn ethol un aelod yr un. Pan gafodd ei greu ym 1979 roedd Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnwys etholaethau seneddol Brycheiniog a Maesyfed, Ceredigion, Caerfyrddin, Gŵyr, Llanelli, Penfro, Dwyrain Abertawe a Gorllewin Abertawe. Ym 1984 cafodd etholaeth Castell-nedd ei ychwanegu at y sedd. Ym 1994 newidiwyd y ffiniau yn sylweddol wrth i nifer yr etholaethau Ewropeaidd yng Nghymru gynyddu o 4 i 5. Er i'r etholaeth gadw'r un enw - roedd y ffiniau newydd yn dra wahanol gyda siroedd Dyfed, Powys ac etholaeth Meirionnydd Nant Conwy yn ffurfio rhan o'r etholaeth newydd. Daeth y sedd yn rhan o Etholaeth Cymru Gyfan ym 1999. Aelodau etholedig
EtholiadauCanlyniad Etholiad 1979
Canlyniad etholiad 1984
Canlyniad etholiad 1989
Canlyniad Etholiad 1994
CyfeiriadauInformation related to Canolbarth a Gorllewin Cymru (etholaeth Senedd Ewrop) |
Portal di Ensiklopedia Dunia