Caroline o Napoli a Sisili
Tywysoges Eidalaidd o deulu'r Bourboniaid oedd Marie-Caroline (ganed Maria Carolina Ferdinanda Luisa; 5 Tachwedd 1798 – 17 Ebrill 1870), a briododd Charles-Ferdinand d'Artois, dug Berry, sef mab Siarl X, brenin Ffrainc. Roedd yn fam i Henri, cownt Chambord, a hawliodd coron Ffrainc o dan yr enw Henri V. Roedd Caroline yn ferch i Francesco I, brenin y Ddwy Sisili (hynny yw, Napoli a Sisili) a Maria Clementina, archdduges Awstria. Fe'i ganed ym Mhalas Caserta, yn rhanbarth Campania yn yr Eidal fodern. Priododd Charles-Ferdinand d'Artois, dug Berry, a chawsant bedwar o blant, gan gynnwys Louise Marie Thérèse d'Artois ac Henri, dug Bordeaux a chownt Chambord. Roedd Caroline hefyd yn arlunydd. Bu farw yn Mureck, Awstria, ar 17 Ebrill 1870. Gweler hefyd
Rhai arlunwyr eraill o'r un cyfnodRhestr Wicidata:
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Information related to Caroline o Napoli a Sisili |
Portal di Ensiklopedia Dunia