Castell Biwmares
Castell ar gyrion tref Biwmares, Ynys Môn, yw Castell Biwmares. Cafodd ei gynllunio gan James o St George yn gastell consentrig gyda ffos o'i gwmpas. Fe'i adeiladwyd ar lan Afon Menai gan Edward I, brenin Lloegr, rhwng 1295 a 1298, ar ôl gwthryfel Madog ap Llywelyn. Dinistriwyd tref Llan-faes yn y gwrthryfel hwnnw, a chafodd rhai o'r cerrig o'r fynachlog enwog eu defnyddio i godi'r castell. Am ryw reswm chafodd y castell byth ei gwblhau. Cipiwyd y castell gan gefnogwyr Owain Glyndŵr yn ystod gwrthryfel y tywysog. Ar 27 Gorffennaf 1593, cafodd yr offeiriad Catholig o Gymro William Davies, a gofir am ei ran yng nghyhoeddi Y Drych Cristianogawl, y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru, ei ddienyddio yn y castell trwy ei grogi, diberfeddu a chwarteru. Canoneiddwyd William Davies gan y Pab yn 1987. Erbyn 1609 roedd y castell yn furddun. Adeg Rhyfel Cartref Lloegr roedd castell Biwmares mewn man allweddol gan ei fod yn rheoli rhan o'r daith rhwng Iwerddon a Lloegr. Roedd teulu Thomas Bulkeley, wedi bod yn ymwneud â rheoli'r castell am ganrifoedd ac roedd Thomas Bulkeley yn gefnogol i'r Brenin. Erbyn 1646 roedd y Pengryniaid wedi cael buddugoliaeth ar luoedd y brenin. Gwrthryfeloedd Ynys Môn yn erbyn y Senedd eto yn 1648, ond bu rhaid iddyn nhw ildio yr ail waith yn yr Hydref. Cynhaliwyd eisteddfod yng nghwrt y castell yn 1832.Oedd Castell Biwmares mond yn cymud 1 blunedd i gwyneud. Mae'r castell yng ngofal Cadw, ac mae'n un o'r atyniadau pennaf i dwristiaid ym Môn. Fe'i gosodwyd ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1986, fel rhan o'r safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd.[1]
Cyfeiriadau
Information related to Castell Biwmares |
Portal di Ensiklopedia Dunia