David Williams, Castell Deudraeth
Roedd David Williams (30 Mehefin 1799 – 7 Rhagfyr 1869) yn wleidydd, cyfreithiwr a tirfeddiannwr. Fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol yn 1868 cyn marw yn y swydd flwyddyn yn ddiweddarach. Dyddiau CynnarGanwyd David Williams 30 Mehefin 1799 yn Saethon Llangian Ynys Môn, yn nawfed plentyn i David Williams, Saethon (1754-1823), a Jane (née Jones) (1769-1834) ei wraig. Bywyd PersonolPriododd Annie Louisa Loveday Williams ym 1841, yr oedd hi yn ferch i William Williams Peniarth uchaf. Bu iddynt 14 o blant, yr hynaf o'r rhain oedd Syr Arthur Osmond Williams un o olynyddion David Williams fel AS Meirionnydd [1] GyrfaRoedd brawd hyn i David, John Williams, wedi sefydlu fel cyfreithiwr yn Llanfyllin, Sir Drefaldwyn ac aeth David ato i ddysgu'r un grefft. Wedi cymhwyso yn y proffesiwn symudodd i Feirionnydd i weithio fel cyfreithiwr a phrif reolydd Ystâd William Alexander Madocks (yr hwn a roddodd ei enw i Borthmadog). Fe fu ynghlwm a'r gwaith o sychu tiroedd y tu ôl i gob Porthmadog ac fe adeiladodd nifer o dai ar y tiroedd a adferwyd yn yr hyn sydd bellach y rhan isaf o Benrhyndeudraeth. Bu'n glerc yr heddwch yn Sir Feirionnydd, 1842-59 , bu'n gwasanaethu fel Dirprwy Raglaw Sir Feirionnydd a Sir Gaernarfon, yn Siryf Meirionnydd o 1861 i 1862 a Sir Gaernarfon o 1862 i 1863. Bu'n ymddiddori'n fawr ym marddoniaeth a llenyddiaeth Gymraeg gan ddefnyddio'r enw barddol Dewi Heli mewn cylchoedd Eisteddfodol. Gyrfa GwleidyddolSafodd David Williams yn enw'r Rhyddfrydwyr yn Erbyn W. W. E. Wynne, Peniarth ym 1859 a chael ei guro o 40 bleidlais, fe arweiniodd yr etholiad at ail strwythuro'r achos Rhyddfrydol yn yr etholaeth. Safodd eto ym 1865 gan leihau mwyafrif y Torïaid i 31. Ddwy flynedd yn ddiweddarach pasiwyd Deddf Diwygio’r Senedd 1867 ac o ganlyniad cafodd llawer mwy o ddynion yr hawl i bleidleisio, yn arbennig felly yn yr ardaloedd diwydiannol megis Ffestiniog. Bu'r cynnydd yn nifer y pleidleiswyr yn fanteisiol iawn i'r achos Ryddfrydol. Wedi gweld yr ysgrifen ar y mur fe dynnodd yr ymgeisydd Ceidwadol allan o ymgyrch seneddol 1868 ychydig ddyddiau cyn yr etholiad a chafodd Williams ei ethol yn ddiwrthwynebiad - y Rhyddfrydwr cyntaf i gynrychioli'r sir yn San Steffan. Daliwyd y sedd gan y Rhyddfrydwyr am yr 83 mlynedd nesaf, hyd i'r Blaid Lafur ei chipio ym 1951.[2] Er mawredd ei lwyddiant yn etholiad 1886, prin bu gyrfa seneddol David Williams; oherwydd salwch pleidleisiodd dim ond unwaith ar fesur Seneddol - sef ail ddarlleniad Mesur Eglwys yr Iwerddon, bu farw blwyddyn ar ôl ei ethol ar 15 Rhagfyr 1869 [3] a chafodd ei gladdu ym mynwent Penrhyndeudraeth Galeri
Cyfeiriadau
Information related to David Williams, Castell Deudraeth |
Portal di Ensiklopedia Dunia