Castell Olwen
Bryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, wedi'i lleoli ger Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, yw Castell Olwen. Fe'i lleolir uwchben Afon Dulas. DisgrifiadMae'n dyddio o tua'r ail neu'r 3g cyn Crist; mae dwy gaer arall ger llaw o'r un cyfnod sef Castell Allt Goch a Castell Goetre.[1] Ar y ddaear mae olion amddiffynfa gylch ganoloesol.[2] Mae clawdd llydan sy'n troi yn gwynebu i'r gorllewin a'r gogledd; mae dwy ran tu mewn gyda'r hanner gogleddol yn ffurfio hanner cylch a'r hanner deheuol yn hirgrwn.[3] Mae'n gofadail rhestredig sydd wedi wedi ei restru fel bryngaer.[2] Mae gwefan Arfordir a Cefn Gwlad Ceredigion yn codi'r cwestiwn "a fu yna gysylltiad rhyngddi â chwedl Culhwch ac Olwen yn y Mabinogion, tybed?"[1] ond ni ellir profi erbyn heddiw fod yr amddiffynfa wedi'i henwi ar ôl Olwen, ferch Ysbaddaden Bencawr. CefndirCofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CD161.[4] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru. Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[5] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[6] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[7] Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43. Cyfeiriadau
Information related to Castell Olwen |
Portal di Ensiklopedia Dunia