Robert Schuman
Gwladweinydd o Ffrainc oedd Robert Schuman (29 Mehefin 1886 – 4 Medi 1963). Ganwyd yn Clausen, Lwcsembwrg ym 1886. Yn wreiddiol roedd ganddo genedligrwydd Almaenig, ac astudiodd y gyfraith yn yr Almaen, ond ym 1919 daeth yn ddinesydd Ffrengig a dechreuodd ar yrfa wleidyddol yn Ffrainc. Yn gynnar yn yr Ail Ryfel Byd cafodd ei garcharu gan yr Almaenwyr. Ar ôl y rhyfel roedd ganddo sawl swydd gweinidogol, ac oedd yn Brif Weinidog ym 1947–8. Ar 9 Mai 1950, tra oedd yn weinidog tramor Ffrainc, cynigiodd gynllun i greu'r Cymuned Ewropeaidd Glo a Dur fel ffordd i rwystro rhyfel arall rhwng Ffrainc a'r Almaen. Roedd y Cymuned hon y cam cyntaf yn natblygiad y Gymuned Economaidd Ewropeaidd, a arweiniodd at y Gymuned Ewropeaidd ac yn olaf i'r Undeb Ewropeaidd. Chwaraeodd hefyd ran bwysig yn y gwaith o greu NATO. Roedd yn Llywydd cyntaf y Cynulliad Seneddol o Senedd Ewrop (1958–60). Enillodd Wobr Erasmus ym 1959.[1] Cyfeiriadau
Information related to Robert Schuman |
Portal di Ensiklopedia Dunia