Robert Mannyng
Bardd yn yr iaith Saesneg Canol a mynach o Loegr oedd Robert Mannyng a flodeuai yn y cyfnod 1288–1338. Roedd yn hanu o Brunne, a elwir bellach yn Bourne, yn Swydd Lincoln. Yr unig ffynonellau sicr amdano ydy'r rhageiriau a ysgrifennwyd ganddo ar gyfer ei ddwy gerdd: Handlyng Synne (cychwynnwyd 1303) a The Story of England (cyflawnwyd 1338). Aelod o Urdd Gilbert ydoedd. BywgraffiadYn ôl hanes Mannyng o'i fywyd, ymunodd â Chanoniaid Urdd Gilbert yn Sempringham, Swydd Lincoln, yn 1288. Mae'n honni iddo astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt yr un pryd â Robert de Brus a'i frodyr Thomas ac Alexander. Adeg gyflawni The Story of England, yn 1338, roedd yn byw mewn priordy arall y Gilbertiaid yn Swydd Lincoln. Mae'n debyg dyma'r un Syr Robert de Brunne, caplan, a enwir yn ysgutor mewn ewyllys yn Lincoln yn 1327.[1] BarddoniaethHandlyng Synne
Traethawd Cristnogol mydryddol yw Handlyng Synne a gychwynnwyd yn 1303. Mae'n seiliedig ar y gerdd ddidactig Eingl-Normaneg Manuel de Pechiez gan Wilham de Waddington. Llinellau wythsill yw mesur y gerdd, a chanddi ryw 12,600 o linellau i gyd. The Story of EnglandMae rhan gyntaf The Story of England, a elwir yn aml yn Mannyng's Chronicle, yn olrhain hanes o'r cymeriad Beiblaidd Noa hyd at farwolaeth Cædwalla, Brenin Wessex yn 689. Mae'r ail ran yn diweddaru hanes Lloegr hyd at farwolaeth y Brenin Edward I yn 1307. Cyfeiriadau
Information related to Robert Mannyng |
Portal di Ensiklopedia Dunia