J. R. Jones
Athronydd ac awdur o Gymro oedd John Robert Jones, sy'n fwy adnabyddus fel J. R. Jones (4 Medi 1911 – 3 Mehefin 1970). BywgraffiadGaned J. R. Jones ym Mhwllheli, Gwynedd. Bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio gyda dosbarth cyntaf mewn athroniaeth cyn gwneud M.A. yn Aberystwyth a D. Phil. yng Ngholeg Balliol, Rhydychen. Dychwelodd i Aberystwyth fel darlithydd yn 1939, a bu yno hyd nes cael ei benodi'n Athro Athroniaeth ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe yn 1952, lle bu hyd ei farwolaeth. Roedd yn briod â Julia Roberts, ac roedd ganddynt un ferch fabwysiedig. Roedd yn un o gefnogwyr cynharaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac ysgrifennodd nifer o lyfrau ar yr iaith gan gynnwys ei lyfr Prydeindod a oedd yn rhannol yn ymateb i syniadau newydd Owain Owain ar bwysigrwydd Y Fro Gymraeg. Ysgrifennodd hefyd ar grefydd. Dylanwadau eraill arno oedd: Paul Tillich, Simone Weil a Ludwig Wittgenstein. Mae 'Wedi'r Storm' gan Gerallt Lloyd Owen, a gyhoeddwyd yn y gyfrol Cerddi'r Cywilydd, yn gerdd er cof am J. R. Jones. LlyfryddiaethMae llawer o bamffledi J.R. Jones bellach wedi eu digido gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac i'w darllen a lawrlwytho am ddim o lyfrgell y Coleg sydd ar ei gwefan:[1] Gwaith J. R. Jones
Cyhoeddodd hefyd nifer fawr o ysgrifau mewn cyfnodolion megis Efrydiau Athronyddol, Y Traethodydd, Proceedings of the Aristotelian Society ac eraill. Astudiaethau
Cyfeiriadau
Information related to J. R. Jones |
Portal di Ensiklopedia Dunia