P. D. James
Awdur nofelau trosedd o Loegr ac argwlydd am oes y Blaid Geidwadol yn Nhŷ'r Cyffredin oedd Phyllis Dorothy James, Barwnes James o Holland Park, OBE, FRSA, FRSL (3 Awst 1920 – 27 Tachwedd 2014)[1], a adnabyddir yn fwy cyffredin fel P. D. James. Mae'n fwyaf adnabyddus am gyfres o nofelau yn dilyn hanes heddwas a bardd Adam Dalgliesh.[2] Bywyd a gyrfaGaned James yn Rhydychen yn ferch i Sidney James, arolygwr treth, ac addysgwyd yn Ysgol Brydeinig Ludlow a Ysgol Uwchradd i Ferched Caergrawnt.[3] Dechreuodd ysgrifennu yn yr 1950au.[4] Enwyd ei nofel gyntaf, Cover Her Face, yn dilyn hanes Adam Dalgliesh o New Scotland Yard, ar ôl athro yn Ysgol Uwchradd Caergrawnt, a cyhoeddwyd ym 1962.[5] Gosodir nifer o nofelau dirgelwch James ar gefndir biwrocraeth Brydeinig, megis y system gyfiawnder troseddol a'r system iechyd, meysydd yr oedd James wedi gweithio ynddynt ers degawdau, gan gychwyn yn yr 1940au pan aeth i weithio mewn gweinyddiaeth ysbytu er mwyn cefnogi ei gŵr, a oedd yn wael, a'u dau plentyn. Dyflwydd wedi cyhoeddiad Cover Her Face, bu farw gŵr James, a cymerodd swydd fel gwas sifil yn adram cyfiawnder troseddol y Swyddfa Gartref. Gweithiodd James yn gwasanaethu'r llywodraeth hyd ei ymddeoliad ym 1979. Mae'n Anglican ac yn Noddwr Lleyg y Cymdeithas Llyfr Gweddi. Mae ei gwaith o 2001, Death in Holy Orders, yn arddangos dealltwriaeth o strwythr a gweithrediad mewnol yr eglwys.[6] Lleolwyd ei nofelau diweddarach mewn rhyw fath o gymdeithasau caedig o ryw fath, megis tŷ cyhoeddi neu siambr bargyfreithiwr, colege ddiwynyddol, ynys neu glinic preifat. Cyhoeddwyd nofel Adam Dalgliesh, The Private Patient, ym mis Awst 2008 yn y Deyrnas Unedig gan Faber & Faber (Tachwedd 2008 yn yr Unol Daleithiau gan Alfred A. Knopf) a cyhoeddwyd Talking About Detective Fiction yn 2009. Mae hefyd wedi ysgrifennu nifer o draethodau a straeon byrion ar gyfer papurau newydd, cylchgronnau ac antholegau yn ystod ei gyrfa. Nid yw rhain wedi eu cyhoeddi mewn casgliad hyd yn hyn. Fel golygydd gwestai rhaglen Today BBC Radio 4 ym mis Rhagfyr 2009, cyfwelodd James Gyfarwyddwr-cyffredin y BBC, Mark Thompson, a rhoddodd yr argraff ei bod yn feirniadol o'i benderfyniadau. Dywedodd cyflwynydd Today, Evan Davis a oedd wedi cael ei argraffu gan James, y dylai fod yn cyflwyno'r rhaglen yn barhaol nid fel gwestai.[7] Yn 2008, sefydlwyd i Neuadd Enwogion Ysgrifennu Trosedd Rhyngwladol yng Ngwobrau cyntaf Trosedd Cyffrous ITV3.[8] Ffilm a theleduAddaswyd nifer o nofelau dirgelwch James ar gyfer y teledu gan Anglia Television ar gyfer ITV yn ystod yr 1980au. Darlledwyd y cynyrchiadau dramor hefyd, gan gynnwys yn yr Unol Daleithiau ar sianel PBS. Chwaraeodd Roy Marsden ran Adam Dalgliesh yn y cynyrchiadau rhain. Ers hynnu, mae'r BBC hefyd wedi addasu Death in Holy Orders (2003) a The Murder Room (2004) fel dramau unigol, gyda Martin Shaw yn chwarae rhan Dalgliesh. Ei nofel 1992 The Children of Men oedd sail ffilm 2006 Children of Men, a gyfarwyddwyd gan Alfonso Cuarón a serennodd Clive Owen, Julianne Moore a Michael Caine.[9] Er y bu cryn newidiadau i'r stori o'r llyfr, adroddwyd y bu James yn bles iawn gyda'r addasiad ac yn falch o fod yn gyllystiedig â'r ffilm.[10] LlyfrauNofelauDirgelychau Adam Dalgliesh
Cordelia Gray mysteries
Miscellaneous novels
Argraffiadau omnibws
Ffeithiol
Addasiadau teledu a ffilm
Detholiad o wobrau ac anrhydeddauAnrhydeddau
Doethuriaethau anrhydedd
Cymrodoriaethau anrhydedd
Gwobrau
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
Dolenni allanol![]() Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:
Information related to P. D. James |
Portal di Ensiklopedia Dunia