C.P.D. Sir Hwlffordd
Ffurfiwyd y clwb yn 1899[1] ac maent yn chwarae ar faes Dôl y Bont. HanesFfurfwyd y Clwb yn 1899 fel C.P.D. Hwlffordd ond ar ôl blynyddoedd o chwarae yng Nghynghrairt Sir Benfro, newidiwyd enw'r clwb i C.P.D. Athletic Hwlffordd ym 1936 wedi iddynt sicrhau dyrchafiad i Gynghrair Cymru'r De[1][2]. Cafwyd newid arall i enw'r clwb ym 1956 wrth iddynt fabwysiadu'r enw C.P.D. Sir Hwlffordd ac yn yr un tymor, llwyddodd y clwb i ennill pencampwriaeth Cynghrair Cymru'r De am y tro cyntaf yn eu hanes[3]. Llwyddodd y clwb i ennill y bencampwriaeth ar ddwy achlysur arall, ym 1980-81[4] a 1989-90[5] cyn dod yn un o aelodau gwreiddiol Uwch Gynghrair Cymru ym 1992-93. Byr iawn oedd eu cyfnod cyntaf yn y Gynghrair Genedlaethol gan i'w maes gael ei brynnu gan archfachnad Safeway. Methodd y clwb a dod o hyd i faes o safon derbyniol i'r Gynghrair tra bo maes newydd yn cael ei adeiladu a bu rhaid iddynt ddisgyn yn ôl i Gynghrair Cymru'r De ar gyfer tymor 1994-95. Ym 1997, sicrhawyd dyrchafiad yn ôl i'r Uwch Gynghrair wrth iddynt orffen ar frig Cynghrair Cymru'r De am y pedwerydd tro yn eu hanes[6]. Bu i chwaraewr Cymru, Simon Davies, gychwyn ei yrfa fel bachgen yn Hwlffordd. Mab o ardal Sir Benfro ydyw. Record yn Ewrop
Cyfeiriadau
Information related to C.P.D. Sir Hwlffordd |
Portal di Ensiklopedia Dunia