Rhys ap Dafydd ab Einion

Rhys ap Dafydd ab Einion
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Rhys ap Dafydd ab Einion (fl. 14g).

Cefndir

Ni wyddys dim o gwbl am y bardd. Ceir tri gŵr a rannai'r un enw yng nghofnodion y 14g, o Bowys a Sir Gaerfyrddin, ond nid oes modd uniaethu'r bardd â'r un ohonynt.[1]

Cerdd

Un gerdd yn unig gan Rhys sydd wedi goroesi. Cyfres o ddeg englyn dychan i un o'r enw Sawl ydyw. Cedwir y testun cynharaf yn adran farddoniaeth Llyfr Coch Hergest (tua 1400). Dychenir Sawl fel lleidr a dihiryn sy'n haeddu ei grogi: byddai pawb yn falch o glywed ei farwnad. Dyma'r englyn agoriadol (mae Sawl yn y carchar):

Pwy wyd, mab gwrab girad,—corgïan
Mywn cwr geol gaead?
Mab i'r butain wain wibiad,
Ni ŵyr Sawl, faw diawl, ei dad.[1]

Llyfryddiaeth

  • Gwaith Prydydd Breuan a cherddi dychan eraill o Lyfr Coch Hergest, gol. Huw Meirion Edwards, Cyfres Beirdd yr Uchelwy (Aberystwyth, 2000)

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Gwaith Prydydd Breuan a cherddi dychan eraill o Lyfr Coch Hergest, gol. Huw Meirion Edwards

Information related to Rhys ap Dafydd ab Einion

Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia

Kembali kehalaman sebelumnya