Rhys Maengwyn Jones
Roedd Rhys Maengwyn Jones (26 Chwefror, 1941 – 19 Medi, 2001) yn archeolegydd ac anthropolegydd Cymreig a oedd yn arbenigo yng nghyn hanes brodorion cynhenid Awstralia CefndirGanwyd Jones ym Mangor,[1] yn blentyn i Griffith Maengwyn Jones, athro ffiseg, ac Enid (née Watkin), athro Ffrangeg, ei wraig,[2]. Cafodd ei enw ganol, yn addas iawn i archeolegydd, o grug Ynysymaengwyn, Bryn Crug lle bu ei daid yn fyw, cyn symud i weithio yn chwareli Blaenau Ffestiniog.[3]. AddysgDerbyniodd Jones ei addysg gynradd yn Ysgol Maenofferen ym Mlaenau Ffestiniog, pan oedd ei dad yn athro yn ysgol uwchradd y dref. Bu farw ei dad ym 1954 a symudodd ei fam i fod yn agos i'w teulu i Gaerdydd. Cafodd Jones ei addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg yr Eglwys Newydd. O'r ysgol ramadeg aeth i Goleg Emaniwel, Caergrawnt. Yng Nghaergrawnt bu'n astudio yn y Gyfadran Archaeoleg ac Anthropoleg, lle bu'n arbenigo mewn astudiaeth o economïau a thechnolegau helwyr o Hen Oes y Cerrig.[4] GyrfaAr ôl graddio ym 1963, aeth i Awstralia fel un o'r "pomiau deg punt" (talodd £10 am y daith ymfudo tra talodd llywodraeth Awstralia weddill y pris, ar yr amod ei fod yn gweithio yn y wlad am gyfnod penodol.)[5] Roedd llywodraeth Awstralia yn awyddus i ddenu arbenigwyr mewn archeoleg y prif oesoedd i lenwi'r swyddi prifysgol gyntaf a sefydlwyd yn benodol ar gyfer archeoleg Awstralia ym mhrifysgolion Awstralia. Roedd Jones yn un o'r recriwtiaid newydd, gan gymryd cymrodoriaeth ddysgu yn Adran Anthropoleg ym Mhrifysgol Sydney. Fel rhan o'i gymrodoriaeth enillodd gradd PhD. Ym 1969 symudodd i'r Ysgol Ymchwil Astudiaethau'r Môr Tawel ym Mhrifysgol Genedlaethol Awstralia, Canberra Ychydig ar ôl iddo symud i Ganberra sefydlwyd adran archeoleg gynhanes yn y brifysgol, lle bu Jones yn gweithio hyd ei ymddeoliad[6] oherwydd cystudd marwol.[7] Daeth Rhys Jones yn adnabyddus am ei waith ymchwil yn Tasmania, a gadarnhaodd bod y Tasmaniaid cynhenid yn rhannu hil gyda phobl gynhenid tir mawr Awstralia. Cyn hynny roedd yna gred bod y Tasmaniaid o wreiddyn gwahanol. Profodd bod y Tasmaniaid wedi croesi Culfor Bass dros bont tir cyn diwedd y rhewlifiant diweddaf; ac, yn ôl amcangyfrif Jones, ynyswyd Tasmania a'i phobl yn dilyn codiad yn lefel y môr tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl.[8] Roedd yn gred gyffredinol bod y bobl gynhenid wedi gwladychu Awstralia tua 8,000 o flynyddoedd yn ôl. Profodd ymchwil Jones trwy ddefnyddio technoleg newydd ddyddio radiocarbon ac ymoleuedd bod Homo Sapiens wedi cyrraedd Awstralia tu 60,000 o flynyddoedd yn ôl.[9] Ym 1977 cydweithiodd Jones â’r gwneuthurwr ffilmiau, Tom Haydon, i gynhyrchu rhaglen ddogfen, The Last Tasmanian. Daeth y ffilm â chreulondeb wladychwyr Prydeinig yn difa'r trigolion gwreiddiol i sylw gynulleidfa fyd-eang. Cafodd y ffilm ei ddangos ar BBC Cymru o dan yr enw Y Tasmaniad Olaf gyda Jones yn traethu'r hanes trwy'r Gymraeg; y ffilm nodwedd Gymraeg gyntaf yn ôl Guinness World Records Traethodd Jones, hefyd, fersiwn Ffrangeg o'r ffilm: 'Les Derniers Tasmaniens'[3]. Trwy gydol ei yrfa yn Awstralia fu'n cyfrannu erthyglau am ei waith yn y cylchgronau Cymraeg. Yn dilyn ei waith yn Tasmania bu'n ymchwilio i archeoleg ac anthropoleg y brodorion ar draws Awstralia, gan ganolbwyntio yn Arnhem Land ar arfordir trofannol y gogledd. Gyda'i bartner ymchwil hir dymor, a'i briod wedyn, Betty Meehan,[10] treuliodd 14 mis ar Afon Blyth, yn cofnodi sut y treuliwyd amser fforio am fwyd gan y brodorion a'r maeth a ddarganfuwyd gan bobl Gidjingarli, un o'r cymunedau Cynfrodorol olaf i fyw yn draddodiadol oddi ar y tir. Bu'n Athro Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd, ac yn Gymrawd Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. Cydnabuwyd cyrhaeddiad a phwysigrwydd cyfraniad Jones gan Brifysgol Genedlaethol Awstralia trwy ei benodi i gadair bersonol ym 1993. Cafodd ei ethol yn Gymrawd Academi'r Dyniaethau yn Awstralia ym 1982 ac yn yr un flwyddyn fe'i derbyniwyd i'r orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe. Etholwyd ef yn Gymrawd o Gymdeithas yr Hynafiaethwyr, Llundain ym 1987 a daliodd Gadair Ymwelydd Astudiaethau Awstralia ym Mhrifysgol Harvard ym 1996.[6] MarwolaethBu farw o lewcemia yn Canberra, Tiriogaeth Prifddinas Awstralia, yn 60 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Bungendore, De Cymru Newydd. Cyfeiriadau
Information related to Rhys Maengwyn Jones |
Portal di Ensiklopedia Dunia