Mae Locomotif dosbarth 5MT Stanier 4-6-0 o’r Rheilffordd Llundain, y Canolbarth a’r Alban yn ddosbarth o Locomotif stêm cynlluniwyd gan Syr Willam A Stanier. Adeiladwyd 842 rhwng 1934 a 1951, gyda’r rhifau 4658-5499 hyd at 1948, pan newidiwyd eu rhifau i 44658-45499. Goroesodd nifer ohonynt hyd at ddiwrnod olaf stêm ar y rheilffyrdd cenedlaethol ym 1968, ac mae 18 mewn cadwraeth. Roeddent yn locomotifau aml-bwrpas ac yn llwyddiannus dros ben. Roedd Stanier wedi gweithio dros Reilfordd y Great Western a chafodd ei ddylanwadu gan gynllun eu locomotifau,[1] yn yr achos yma, yn benodol gan y dosbarth 'Hall'.[2] Dechreuodd y proses o gynllunio'r locomotif yn Euston, trosglwyddwyd i Weithdy Horwich ac wedyn i Gryw.[3]
Gwnaethpwyd newidiau i rai o’r locomotifau dros y blynyddoedd; gwnaethpwyd arbrofion arnynt cyn dechrau adeiladu’r locomotifau safonol o 1951 ymlaen. Ymysg y newidiadau oedd ger falf Caprotti[4], rolferynnau Timken neu SKF, blwch tân dur a newidiadau i lanhau’r blwch mwg yn awtomatig.
Archebwyd 20 locomotif o Weithdy Cryw ym mis Ebrill 1934, a 50 o Ffowndri Vulcan ym 1933. Roedd ganddynt amrywiaeth o foelers. Archebwyd 5 locomotif arall o Gryw, 50 o Ffowndri Vulcan a 100 o Gwmni Armstrong Whitworth. Archebwyd 227 o Armstrong Whitworth ym 1936, a 20 o Gryw. Adeiladwyd locomotifau yng Ngweithdy Derby o 1943 ymlaen. Newidiwyd rhifau’r locomotifau ym 1948. Yn y pen draw, adeiladwyd 842 o locomotifau, gyda’r rhifau 44658-45499.
Locomotifau Ivatt
Adeiladwyd y fersiwn Ivatt o 1947 ymlaen gyda nifer o addasiadau; roedd newidiadau i ferynnau a gêr falf ym 1948. Roedd hefyd blychau tân dur a simneau dwbl. Cafodd 44738-57 Gêr falf Caprotti a chafodd 44686-7 gêr falf Caprotti newydd, defnyddiwyd yn ddiweddarach ar rai o locomotifau safonol Rheilffordd Brydain.
Enwau
Cafodd ond 5 o’r dosbarth enwau yn ystod eu gyrfeydd gyda Rheilffordd Brydeinig,[5] i gyd gyda enwau catrodau o’r Alban. Cafodd 5155 yr enw ‘The Queen’s Edinburgh’ dros gyfnod o 2 flynedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae 7 arall wedi cael enwau yng nghadwraeth.
Mae 18 o’r dosbarth mewn cadwraeth. Prynwyd 12 ohonynt yn uniongyrchol o Reilffordd Brydeinig (sef 44767, 44806, 44871, 44932, 45000, 45025, 45110, 45212, 45231, 45305, 45407 a 45428) a’r gweddill o Iard Sgrap Dai Woodham (44901, 45163, 45293, 45337, 45379 a 45491).
Adeiladwyd 7 ohonynt gan Reilffordd Llundain, y Canolbarth a’r Alban a’r gweddill gan gwmnïau allanol. Mae 14 o’r 18 wedi gweithio yng nghadwraeth. Ni ddefnyddiwyd 44901, 45163, 45293 a 45491 hyd yn hyn. Mae 12 ohonynt wedi gweithio ar y brif linellau: 44767, 44871, 44932, 45000, 45025, 45110, 45212, 45231, 45305, 45337, 45407 a 45428.
Ar Rheilffordd y Great Central; gobeithio bydd yn gweithio ar brif Rheilffyrdd. Mae angen tystysgrif boeler newydd. Boiler certificate expires 2020. Perchnogion y teulu Draper, Hull.
Mae 44767 yn cario arwydd sy'n dweud: 'This locomotive was named by the Rt. Hon. William Whitelaw, C.H., M.C., M.P. at Shildon on 25 August 1975, to commemorate the 150th anniversary of the Stockton and Darlington Railway.'
enwyd 44806 ar ôl rhaglen deledu Magpie ym 1973, yn cadw'r enw gyda Rheilffordd Lakeside a Haverthwaite a gyda Rheilffordd Llangollen hyd at 2003. Yn hwyrach cafodd yr enw "Kenneth Aldcroft". Erbyn hyn, mae'n gweithio heb enw ar Reilfordd Rhosydd Gogledd Swydd Efrog.