K. M. Peyton
Awdures ffuglen o Loegr oedd Kathleen Wendy Herald Peyton MBE (2 Awst 1929 – 19 Rhagfyr 2023), neu KM Peyton. Roedd hi'n fwyaf adnabyddus am ei nofelau Flambards. Cafodd Peyton ei geni yn Birmingham, Lloegr.[1] Dechreuodd ysgrifennu pan oedd hi'n naw oed. Cafodd ei magu yn Llundain. Mynychodd hi Ysgol Gelf Kingston, ac yna Ysgol Gelf Manceinion. Gwnaeth hi gwrdd a Mike Peyton, cyn-filwr, arlunydd milwrol ac yn garcharor rhyfel. Priodasant yn 1950 [1] Roedd gan Peyton ddwy ferch: Hilary a Veronica.[1] Roedd llawer o'i llyfrau'n ymwneud â'i hoff ddifyrrwch, megis marchogaeth. Ysbrydolwyd ei hysgrifennu cynharaf gan ei chariad at geffylau.[2] Wedyn, ysgrifennodd straeon antur i fechgyn yn bennaf a werthodd fel cyfresi i The Scout, ac a gyhoeddwyd yn llawn yn ddiweddarach. Helpodd ei gŵr hi yn ei hysgrifennu trwy ddyfeisio plotiau. Ysgrifennodd hi hefyd dan enwau eraill, megis Ruth Hollis a Jonathan Meredith. Addaswyd y drioleg Flambards gan Yorkshire Television yn 1978 fel cyfres deledu. Cyfeiriadau
Information related to K. M. Peyton |
Portal di Ensiklopedia Dunia