James Trainer
Pêl-droediwr o Gymru oedd James Trainer (7 Ionawr 1863 - 5 Awst 1915).[2] CefndirGanwyd Trainer yn Wrecsam yn blentyn i James Trainer, pobydd, a Mary Ann ei wraig. Wedi ei addysgu yn ysgolion elfennol lleol cafodd ei brentisio i fod yn adeiladwr coetsis. Gyrfa pêl-droedDechreuodd Trainer i chware pêl-droed tra yn yr ysgol. Bu'n chware i dimau ieuenctid Penybryn Wanderers, Clwb Bechgyn Challenger, a Wrexham Grosvenor. Ym 1879 unodd Wrexham Grosvenor a thîm C.P.D Wrecsam a bu Trainer a dechreuodd chware i'w tîm ieuenctid hwy. Roedd yn chware yng nghanol y cae i'r timoedd ieuenctid ond cafodd cynnig i chware i'r tîm hŷn pe bai yn hyfforddi i fod yn gôl-geidwad. Dechreuodd chware yn y gôl i dîm hŷn Wrecsam yn nhymor 1881 - 82. Diolch, yn rhannol i'w allu fel gôl-geidwad llwyddodd Wrecsam i ennill Cwpan Cymru yn ystod ei ail dymor gyda'r clwb trwy drechu tîm y derwyddon yn y ffeinal.[1]. Ymadawodd a Wrecsam ym 1883 wedi anghydfod yn dilyn gornest Cwpan Lloegr arbennig o arw yn erbyn Croesoswallt ym mis Rhagfyr 1883.[3] Honnwyd iddo sarhau’r dyfarnwr a gwaharddodd Wrecsam o’r gystadleuaeth ac adrodd am drosedd Trainer i Gymdeithas Bêl-droed Cymru. Symudodd i Great Leaver yn Swydd Caerhirfryn (Manceinion Fwyaf, bellach) i ail afael ar ei waith fel adeiladwr coetsis, ond yn fuan dechreuodd chwarae i'r clwb lleol Great Lever F.C. Ym 1884 ymunodd a thîm Bolton Wanderers. Ym 1887 symudodd i chware i dîm Preston North End.[4] Yn ystod ei dymor cyntaf gyda Preston daeth y tîm yn ail yng nghystadleuaeth Cwpan Lloegr a'r flwyddyn ganlynol cipiodd yr ochr y cwpan. Ffurfiwyd Cynghrair Lloegr ym 1888, a Preston North End, gyda chymorth Trainer yn y gôl, daeth yn bencampwyr cyntaf y Gynghrair. Rhwng 1888 a 1897 chwaraeodd Trainer mewn 253 gêm i Preston.[5] Yn ystod ei gyfnod gyda Preston roedd yn cael ei ystyried i fod y gôl-geidwad gorau yn Lloegr, a derbyniodd y llysenw The Prince of Goal-keepers gan y wasg Seisnig.[6] Dewiswyd Trainer i chware ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn yr Alban ym 1887 a chwaraeodd 20 gwaith dros ei wlad rhwng 1887 a 1899 chwe gwaith yn erbyn Lloegr, naw gwaith yn erbyn Yr Alban, a phum gwaith yn erbyn Iwerddon.[7] Rhoddodd gorau i chwarae pêl-droed ym 1899 ac aeth i gadw gwesty yn Preston. O 1899 hyd 1905 bu'n aelod o fwrdd cyfarwyddwyr Preston. Ym 1905 cafodd gynnig i fod yn drefnydd gornest pêl-droed dan do yn Olympia Llundain. Gan fod Cymdeithas pêl-droed Lloegr wedi gwrthod caniatáu gemau dan do bu'n rhaid iddo ymddiswyddo fel cyfarwyddwr Preston. Methiant bu'r fenter a chollodd Trainer y cyfan o'i arian.[8] TeuluPriododd Alice Lee, merch Anthony Lee, cigydd, Great Leaver, Swydd Caerhirfryn ar 29 Mawrth 1866. Cawsant deg o blant. Bu'r briodas yn un cythryblus, roedd Trainer yn amau bod ei wraig yn cael perthynas a dyn arall ac er mwyn ceisio ei dal arferai gwisgo mwstas ffug i'w dilyn o amgylch y lle. Bygythiodd ei ysgaru, ond penderfynodd beidio ar ôl i'r ddau cymodi. Ym 1905 cafodd Trainer plismon i droi ei wraig allan o'u tŷ ac fe wnaeth hi ymateb trwy ei erlyn ef am ei adael yn amddifad.[9] MarwolaethWedi methiant y fenter pêl-droed yn Olimpia arhosodd Trainer yn Llundain, heb ei deulu, a bu farw yno mewn tlodi enbyd ym 1915 yn 52 mlwydd oed. Cyfeiriadau
Lua error in package.lua at line 80: module 'Module:Navbar/configuration' not found. Information related to James Trainer |
Portal di Ensiklopedia Dunia