Cynulliad Gogledd Iwerddon
Cynulliad Gogledd Iwerddon (Gwyddeleg: Tionól Thuaisceart Éireann,[1]) yw'r corff deddfwriaethol datganoledig ar gyfer materion mewnol Gogledd Iwerddon. Mae'n cwrdd yn Adeilad y Senedd (Stormont), Belffast. Mae'n un o ddau sefydliad "cyd-ddibynol" (mutually inter-dependent) a grewyd yn 1998 gan Gytundeb Gwener y Groglith, yr ail sefydliad yw Cyngor Gweinidogion y Gogledd/De, ar y cyd gyda Gweriniaeth Iwerddon. Pwrpas y cytundeb hwn oedd tawelu 'Yr Helyntion' milwrol a fu yng Ngogledd Iwerddon am gyfnod o 30 mlynedd. Mae Cynulliad Gogledd Iwerddon wedi'i ethol yn ddemocrataidd o 108 o aelodau a elwir yn 'Aelodau Cynulliad Deddfwriaethol (Gogledd Iwerddon)' (byrfodd arferol: MLA). Defnyddir math o sytem pleidlais sengl drosglwyddadwy sydd hefyd yn ymgorffori'r system Cynrychiolaeth gyfrannol. Penodir y Gweinidogion i Bwyllgor Gwaith Cynulliad Gogledd Iwerddon drwy rannu pwer, gan ddefnyddio dull D'Hondt, sy'n sicrhau fod gan y ddwy brif garfan (yr Unoliaethwyr a'r Cenedlaetholwyr) ran o'r gacen. Ychwanegwyd at bwerau'r Cynulliad ar 12 Ebrill 2010, pan gafodd y Cynulliad bwerau'n ymwneud â'r Heddlu a Chyfraith. GohiriadauGohiriwyd y Cynulliad ar sawl achlysur, gyda'r gohiriad hiraf rhwng 14 Hydref 2002 a 7 Mai 2007. Yn ystod y cyfnodau hyn, trosglwyddir holl bwerau'r Cynulliad i Swyddfa Gogledd Iwerddon, ac felly'n cael ei weinyddu gan Lywodraeth Prydain.[2]
Yn Awst 2015 roedd Unoliaethwyr Ulster (UUP) yn ystyried rhoi’r gorau i rannu grym pwerau yng Ngogledd Iwerddon, a ffurfio gwrthblaid eu hunain yn dilyn honiadau y gallai’r IRA fod yn weithredol o hyd. Daw’r penderfyniad yn sgil asesiad gan wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon (PSNI) fod elfennau o’r IRA yn dal i weithredu, yn groes i Gytundeb Gwener y Groglith. Dywedodd Prif Gwnstabl gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, George Hamilton fod posiblirwydd cryf fod rhai o aelodau'r IRA fod wedi bod ynghlwm â llofruddiaeth Kevin McGuigan. Ond yn ôl Gerry Adams, arweinydd y blaid Sinn Fein roedd yr IRA wedi "mynd i ffwrdd". Galwodd y Gweinidog dros Gyfiawnder, Frances Fitzgerald, am "arolwg newydd" o weithgareddau’r IRA gan yr heddlu. AelodauManylwyd ar aelodaeth y Cynulliad yn Neddf Gogledd Iwerddon 1998. Yn wreiddiol roedd gan y Cynulliad 108 aelod (MLAs) a etholwyd o 18 etholaeth wyth-aelod. Yn dilyn y Assembly Members (Reduction of Numbers) Act (Northern Ireland) 2016, cafwyd gostyngiad yn nifer yr aelodau ymhob etholaeth o 6 i 5.[3] Felly, pan gynhaliwyd Etholiad Cyffredinol Gogledd Iwerddon ym Mawrth 2017, roedd cyfanswm o 90 aelod.[4] Etholiad Cyffredinol Gogledd Iwerddon 2017Cynhaliwyd yr etholiad ar 2 Mawrth 2017. Yn gefndir i hyn roedd Refferendwm Brexit, pan bleidleisiodd mwyafrif pobl Gogledd Iwerddon dros aros yn yr UE. Galwyd yr etholiad yn dilyn ymddiswyddiad Dirprwy Brif Weinidod y Cynulliad, sef Martin McGuinness (Sinn Féin) oherwydd ei iechyd ac mewn protest oherwydd sgandal 'Ymgyrch y Gwres Adnewyddadwy' dan arweiniad gan Unoliaethwyr. Gan nad apwyntiwyd neb yn ei le gan y cenedlaetholwyr, roedd yn rhaid, yn ôl y Ddeddf, alw etholiad. Hwn oedd y 6ed etholiad ers ail-sefydlu'r Cynulliad yn 1998. Roedd yr etholiad hon yn garreg filltir bwysig yng ngwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon gan ei bod y tro cyntaf i'r Cenedlaetholwyr ethol mwy o aelodau na'r Unoliaethwyr. Etholwyd 28 DUP a 10 UUP yn rhoi cyfanswm o 38 o Unoliaethwyr; etholwyd 27 aelod o Sinn Féin a 12 SDLP yn rhoi cyfanswm o 39 aelod. Gweler hefydCyfeiriaduau
Information related to Cynulliad Gogledd Iwerddon |
Portal di Ensiklopedia Dunia