Craig Dawson
Pêl-droediwr Seisnig yw Craig Dawson (ganwyd 6 Mai 1990) sydd ers Awst 2010 yn chwarae i West Bromwich Albion; cyn hynny bu'n chwarae i Radcliffe Borough, Bolton Wanderers a Rochdale. Cyn troi'n bêl-droediwr proffesiynol, bu'n gweithio fel barman yn casglu gwydrau mewn tafarn a chwarae i'w dim lleol: Rochdale St Clements.[1] Cychwynodd ei yrfa bêl-droed yn chwarae i Radcliffe Borough F.C yng nghanol y tymor 2007-8, a daeth i chwarae i'r tim cyntaf o fewn dim. Yn ei ddau dymor cyntaf cafodd 95 gêm a 15 gôl.[2] Arwyddodd i'w glwb lleol (Rochdale) yn Chwefror 2009 ar gytundeb o ddwy flynedd.[3] Cyfeiriadau
Information related to Craig Dawson |
Portal di Ensiklopedia Dunia