Camp Coffee
Surop coffi parod[1] â blas coffi a sicori yw Camp Coffee, a gynhyrchir yn yr Alban ers 1885. Fe'i gwneir yn wreiddiol ar gyfer milwyr Ucheldirwyr Gordon oedd ar ymgyrch yn India. Daw'r enw Camp o dalfyriad y gair Saesneg campaign, sef ymgyrch [filwrol]. Heddiw, y cwmni bwyd McCormick sy'n cynhyrchu Camp. Mae'n cynnwys siwgr, dŵr, rhinflas coffi a rhinflas sicori. Gan amlaf, fe'i cymysgir â llaeth i wneud diod boeth neu oer, neu ei roi mewn bwydydd melys megis teisenni, eisin, a losin. Roedd hen label Camp yn portreadu milwr Albanaidd mewn cilt yn eistedd ac yn yfed Camp, tra yr oedd gwas Sicaidd yn gweini arno ac yn dal hambwrdd o ddiodydd. Cafodd yr hambwrdd ei dynnu o'r llun i geisio moderneiddio'r label, ond parhaodd cyhuddiadau o hiliaeth ac bod y label yn rhamanteiddio dyddiau'r Raj. Ar droad yr unfed ganrif ar hugain, bu rhai perchenogion siopau o dras Asiaidd ym Mhrydain yn gwrthod gwerthu Camp.[2] Yn 2006 newidiodd y label eto, ac bellach mae'r Sîc yn eistedd ac yn yfed hefyd.[3] Cyfeiriadau
Dolen allanol
Information related to Camp Coffee |
Portal di Ensiklopedia Dunia